Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhaid imi fynd adre," ac i ffwrdd â mi yn teimlo'n sâl iawn, fel taswn i wedi ceisio dringo'r pren fy hun, ac wedi gafael ynddo fo â nannedd. Wyddwn i ar wyneb y ddaear be ddeudwn i wrth mam, ond mi benderfynes yn y diwedd y buaswn i'n canmol y cinio clwb heb gymryd arna mod i'n cofio dim am y neges.

Wrth lwc, pan eis i'r tŷ pwy oedd yno ond Anti Leisa wedi dwad i edrych am mam. Bob dydd Llun y Sulgwyn y mae hi'n dwad. Mi fuase'n werth chweil ichi weld ei het hi. Roedd hi yr un fath yn union â desgil bwdin wedi ei chyfro efo croen pwdin wedi llosgi. Mi ddaru gweld Anti godi nghalon i'n arw, o achos mi wyddwn na fuase mam yn deud dim byd yng ngwydd pobol ddiarth. Mi ruthres i'r tŷ. "Mam," medde fi, "mi fuase'n werth chweil ichi glywed Nymbar 4 heddiw," ac allan â fi wedyn. Ymhen tipyn mi eis i'r tŷ ac i ngwely'n fachgen da, yn lle plagio am gael aros i fyny wrth fod acw bobol ddiarth. Roedd gen i eisio tawelu tipyn ar y storm oedd i ddwad, ydech chi'n dallt?

Wel, y mae Anti Leisa wedi mynd, a nhad a mam yn gomio yn y gegin, gan feddwl mod i'n cysgu. Fedra i ddim peidio â chlywed eu gom nhw, a dyma oedd hi dipyn yn ôl,

"Faint ddeudodd o oedd gan Robert Jones o foch Sarah?" medde nhad. "Nymbar 4,—pedwar," medde mam. "Wel, mi ddaw rhwbeth o'r hogyn yma os caiff o fyw, y mae o'n mynd yn bur glyfar," medde nhad. "Ydi wir," medde mam, "pa fachgen o'i oed o tybed fuase'n medru cyfri moch yn Saesneg? Cheiff o ddim gweithio os galla i ei rwystro fo." "Na cheiff," medde nhad, "mi a inne heb damed cyn y caiff o gam, a chymint yn ei ben o."