Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr arwydd bod y dydd wedi dwad ydi bod mam yn edrych yn bwysig drwy'r bore, fel tase ganddi hi rwbeth eisio'i ddeud, ond heb wybod sut i'w ddeud o. Wedi i amser cinio ddwad, a nhad gyrraedd o'r gwaith, mae hi'n gofyn am fenthyg ei gyllell o, yna ynghanol distawrwydd yn mynd ac yn nôl un o'r poteli, yn torri'r llinyn, yna agor y corcyn efo fforcen, ac yn dwad â'r botel ar y bwrdd, yna'n tynnu dau nionyn allan, eu torri nhw yn eu hanner efo cyllell, ac yn rhoi hanner bob un i Jac a fi, nhad a hithe, wedi hynny yn rhoi'r corcyn yn ei ôl ac yn cadw'r botel, cyn dechre ar y cinio. Ond wedi i Jac fynd at y ffarmwrs, bob tro y geilw o adre wrth basio, y mae mam yn dwad â'r botel bicls iddo fo ei helpio'i hun. Un waith erioed y gweles i neb yn cael ei helpio'i hun efo hi o'r blaen, a mistar Jac pan oedd o'n ei gyflogi o, a gafodd y tro hwnnw. Yr oedd hynny'n arwydd i mi fod Jac ar ôl mynd at y ffarmwrs wedi ymgodi yn y byd, ac yn anrhydedd i'w deulu.

Peth arall a wnaeth imi feddwl mai peth dewr oedd bod efo'r ffarmwrs, oedd y diwrnod yr oedd Jac yn cychwyn. Wna i byth anghofio hwnnw. Dydd Mercher oedd hi, ac yr oedd nhad wedi cael dwad o'r gwaith ganol dydd er mwyn mynd â Jac. Yr oedd mam wedi bod er y bore cynta fel iâr ungyw. Bob nos wyddoch, wrth i nhad ddwad o'r gwaith, y peth neiff o wedi cyrraedd y rhiniog ydi taro'i droed yn galed ar lawr fel pe bae o'n falch o gyrraedd. Wedi taro'i droed felly, mae o'n troi ei olwg o gwmpas y tŷ, ac yn deud, "Wel, deulu bach," medde fo, ac yna'n mynd i gadw ei dynie bwyd. Ond y diwrnod yma fe ddaeth i'r tŷ heb ddeud yr un gair. Mi feddylies i ar y dechre nad oedd o ddim yn iawn deud