peth felly ar ganol dydd, ond ddim yn dallt yr oeddwn i. Yr oedd o'n edrych yn bur ddrwg pan ddaeth i mewn, ac mi edrychodd yn syn ar mam. Dechreuodd ei gwefus hi grynu, ac aeth i brocio'r tân, pesychodd nhad ac aeth i gadw ei dynie bwyd. Yn y man fe ddaeth amser te, a mam wedi rhoi llian glân ar y bwrdd, a Jac yn ei ddillad gore wrth y bwrdd, a dyma ddechre byta, ond edrych yn syn ar nhad yr oedd mam, a Jac yn cnoi cornel ei gadach poced, ond doedd o ddim arfer efo cadach poced o ran hynny, ac anodd oedd iddo fo ddallt ar unweth be i neud efo fo. "Yfwch y'ch te, Tomos bach," medde mam, "mae o'n oeri." "Yn wir, Sarah bach," medde nhad, "mae fy stymog i wedi mynd rywsut, rhyw yfed gormod o ddŵr ddaru mi yn y gwaith neu rwbeth." Yr oedd ene lot o sbâr te i swper beth bynnag. Ar ôl gorffen, dyma nhad yn deud, "Beth pe bae ni'n cadw rhyw dipyn bach o ddyletswydd efo'n gilydd, cyn i Jac gychwyn, wyddon ni ddim pryd y byddwn ni fel teulu bach efo'n gilydd yn gyfa eto. Mae na gymint . . ." ond orffennodd o mo'r frawddeg, a dyma ni i gyd ar ein glinie. Wedi diolch am ein synhwyre, ac am ein cadw rhag yr haint sydd yn rhodio yn y twllwch, a rhag y saeth sy'n hedeg ganol dydd, fel y mae o arfer, dyma fo'n deud, "Ac, Arglwydd, dyma Jac yma hefyd... ond ddeudodd o ddim chwaneg. Mi wnaeth beth na weles i nhad erioed yn ei neud o o'r blaen,—mi griodd fel plentyn,—nhad, cofiwch yn crio! Yna mi gododd pawb, ac rywfodd fe aeth pawb ar ei ben ei hun.
Toc mi eis i allan, ac mi glywn sŵn yn dwad oddi tan y pren ym mhen draw'r ardd, mi gripies yno, a phwy oedd yno ond nhad, yn deud dim ond griddfan,