fel tase'i galon o'n torri, a minne'n clywed y rhwyg. Yr oeddwn i wedi rhewi wrth y llawr, doeddwn i'n dallt dim o'r pethe hyn, ond roeddwn i'n ddigon call i beidio â holi. Yn union, bron heb wybod, roedden ni efo'n gilydd wedyn, a dyma nhad a Jac yn cychwyn, a mam a finne yn eu gwylio nhw'n mynd. Roedd Jac yn trio camu'n fras, yr un fath â nhad,— roedd o rwan yn ddyn wyddoch, ond wrth ei weld o'n hogyn peder ar ddeg, â'i ddillad ar ei gefn, yn cychwyn i wynebu'r byd, fel y deudai nhad, aeth rhwbeth i nghalon i na fedrai byth mo'i anghofio, ac mi newidiodd y byd yma i mi rywfodd. Y mae mywyd i rwan wedi torri'n ddau, ac mi ddechreues yn syth deimlo mwy o ddiddordeb mewn trowsus llaes nag mewn chware marbls.
Wedi mynd i'r tŷ, ar ôl gwylio Jac a nhad yn mynd, mi sylwes fod ene lyn o ddŵr ar lawr yn y lle y bu nhad yn cadw dyletswydd; dyna'r lle yr arferwn i eistedd fin nos ar y stôl bach. Ond, wn i ddim beth ydi'r mater, fedres i ddim eistedd ar y stôl bach yn y spot hwnnw wedyn.
Wel yn wir, does ene sôn am ddim yn ein tŷ ni byth er hynny, ond am yr Hafod, ac y mae nhad a mam o hyd, o hyd, yn chwilota eu meddylie am hen hanesion hogie tlawd, wedi dechre'n isel, ond drwy fod yn hogie da, wedi tyfu i fod yn ddynion mawr.
Y peth cynta mae mam yn ei neud bob bore ar hyd y blynyddoedd, gynted y deffrith hi, ydi rhoi phen allan drwy'r ffenest i edrych sut dywydd ydi hi, ond mi sylwes ar ôl i Jac fynd i ffwrdd, ei bod hi'n edrych am arwyddion y tywydd i gyfeiriad yr Hafod. Mae nhad hefyd bob nos arfer ag edrych am arwyddion y tywydd cyn cloi'r drws, ond wedi i Jac fynd i ffwrdd, tua'r Hafod yr edrycha yntau amdano.