Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rydwi'n cofio'r pnawn Sadwrn cynta ar ôl i Jac fynd, fod mam yn rhoi bwyd i'r moch, a nhad yn cychwyn i drin yr ardd. Yr oeddwn inne o'r golwg yn trio meddwl am y ffordd ore i neud gwn lastig. "Diar mi, Tomos," medde mam wrth nhad, "welwch chi'r ddwy frân acw, o gyfeiriad yr Hafod mae nhw'n dwad, hwyrach mai Jac ni ddaru eu styrbio nhw oddi ar y cae, roedd ei fistar o'n deud y bydde hynny yn rhan o'i waith o." Ddeudodd nhad yr un gair, ond safodd y ddau i wylio'r ddwy frân nes eu bod nhw o'r golwg yr ochor arall, ac yna ochneidiodd mam a rhoddodd fwyd i'r moch, ac ochneidiodd nhad ac aeth i'r ardd.

Ond ymhen y bythefnos dyma Jac adre ar gefn y gaseg las. "A gafodd o groeso?" medde chi. Wel, y nosweth honno y dechreuodd o'i helpio'i hun i'r botel bicls, ac y mae hynny'n ddeud mawr.

Pan ddaeth y diwrnod i fynd i le Jac, roeddwn i wedi codi cyn codi cŵn Caer, fel y byddan nhw'n deud, wedi cario dŵr, a thorri pricie i gynnu tân, wedi rhoi bwyd i'r ieir, a rhoi gwellt glân dan y moch heb i neb ddeud yr un gair wrtha i. Dyna fy jobsus cyffredin i yn y bore; ond fel rheol mae mam wedi crygu a thorri chalon cyn i mi hanner eu gorffen nhw, ond y mae o'n beth rhyfedd fel y mae rhwbeth fel te-parti, neu ginio clwb, neu fynd ar y'ch holides, neu rwbeth felly, yn gneud i chi gasáu cymint ar y'ch gwely; ac am eu bod nhw felly yn bethe sy'n tynnu drwg rhwng hen ffrindie—y fi a ngwely, neu ryw ffrindie tebyg—dydwi ddim yn meddwl eu bod nhw'n bethe i ymhela gormod efo nhw. Wedi i mi neud popeth yn iawn, a chael fy mrecwast, dyma fi'n cychwyn â'r walet ar fy ysgwydd, â dillad Jac ynddi. Yn un pen yr oedd ei