ddillad, ac yn y pen arall ei bethe startsh o, a rhyw gacen neu ddwy ar y radell oedd mam wedi neud iddo, a thipyn o doffi trieg, o achos mae gan Jac wendid at goleri glân a thoffi triog.
Ond, a deud y gwir i chi, dydi mam fawr o giamstar ar neud pethe startsh, ac o ran hynny fuase waeth iddi roi y pethe startsh efo'r dillad glân yn elo hynny o niwed fuase'n digwydd iddyn nhw. Wrth gwrs, mae'i phethe startsh hi yn lân ac yn wynion, ond rywfodd mi fuasech yn leicio gwybod y gwahaniaeth rhwng gwisgo coler a myfflar, ond mae mam wedi llwyddo i guddio'r gwahaniaeth. Ac am hynny does gan hogyn fel fi ddim gwrthwynebiad i wisgo coler ar y Sul, o achos dydi'ch gwddw chi ddim yn teimlo'n wahanol i ganol rwsnos pan fydd o mewn cadach cwlwm llongwr; ond rhaid imi fynd at fy stori.
Cychwyn ddaru mi, beth bynnag, ac roeddwn i wedi bod yn practeisio yn yr ardd sut i neud sŵn "whiw" fwyaf effeithiol efo nhrowsus, nes fy mod i'n medru ei neud o cystal â Jac, a ffwrdd â fi dan chwislo i fyny ffridd yr Hafod. Mi welwn rwfun yn dwad i lawr, a dyma fi'n rhwbio nhrowsus yn ei gilydd yn uwch nag erioed, ac yn dal i chwislo, a phan ddaeth o i ymyl dyma fi'n deud, "smâi?" ac yn nodio mhen reit syth, fel y gweles i hogie ffarmwrs yn gneud. "Sut mae hi" mae o'n feddwl, wyddoch, ond "smâi" mae bechgyn profiadol, sy wedi arfer tipyn yn ddeud. Ond yn lle ateb, fel y dylse fo, dyma'r llanc yma'n sefyll, ac yn edrych reit od arna i, ac yn gofyn, "Prun ai yn siop Siân y Fferins Duon, ynte yn y pôn y prynest ti dy chwisl?" medde fo. Mynd yn fy mlaen ddaru mi, heb gymryd arna ei glywed o, ond rywsut fedrwn i yn fy myw chwislo