wedyn. Mi dynnodd hyn dipyn arnai i lawr, ond codi nghalon ddaru mi yn y man, a phenderfynu bod rhaid i ddyn sydd wedi ymgodi tipyn yn y byd ddiodde ei wawdio.
Toc mi welwn ryw ddau ddyn yn dwad fel tase nhw'n mynd i ryw ffair, ac mi benderfynes y cawn i well parch ganddyn nhw, a dyma fi'n cerdded yn gyflymach, ac yn rhwbio nghoese yn ei gilydd, ond pan ddaethon nhw i f'ymyl dyma nhw'n sefyll yn stond, ac yn edrych arna' i'n ddifrifol, ac un yn gofyn imi-"Machgen i," medde fo, "pwy ydi dy deiliwr di?" a dyma'r ddau yn dechre chwerthin efo'u dwylo ar eu hochre, a minne'n mynd ymlaen heb gymryd arna hidio. Roeddwn i'n gwybod fod ene anawstere ichi fynd drwy'r byd yma; mae pob un o'r plant wedi clywed y stori honno gymaint o weithie gan John Jones y Ddôl yn y seiat, nes eu bod nhw wedi ei dysgu hi fel adnod. Ond feddylies i rioed fod nhw waethed.
Mynd yn fy mlaen reit ddigalon ddaru mi, beth bynnag, nes dwad i'r Hafod, a phwy a welwn i ar y buarth yn cerdded fel tase fo wedi blino gormod i symud ond Jac. Doedd yr un olwg ddim arno o gwbwl â phan oedd o'n dwad heibio cartre. Mi siomwyd fi braidd yn ei waith o hefyd. Roeddwn i wedi disgwyl ei weld yn y cae yn redig, ac yn bloeddio ar y cyffyle, fel yr oedd o arfer ar y gaseg las pan fydde fo'n dwad â hi heibio i'n tŷ ni, ond mi weles yn union, yn ôl pob tebyg, mai dyna'r unig tshans oedd o'n gael i floeddio arni hi,—rhoi bwyd i'r moch a'r gwydde oedd o pan gefes i'r cipolwg cynta arno. Pan welodd o fi, dyma fo'n sbriwsio i fyny, ac yn edrych yn bwysig, fel yr oedd pan fydde fo'n dwad heibio adre, ond mi weles yn syth nad ydi