edrych yn bwysig ddim mor naturiol, nac yn gweddu cystal, uwch ben gŵydd a mochyn â phan fyddwch ar gefn ceffyl, ac roedd Jac yn teimlo hynny, o achos cochi at ei glustie ddaru o.
Wedi siarad dipyn, dyma fo'n deud, "Tomi, dos o gwmpas i weld y ffarm. Mi a i â nillad glân i'r llofft,—dacw fy llofft i uwch ben y stabal, er mwyn bod yn ymyl y cyffyle wyddost." Ac i chware yr eis i, gan feddwl pam yr oedd raid i Jac druan fod mor agos i'r cyffyle y nos, os nad oedd o'n cael gneud dim ond edrych ar ôl gwydde a moch y dydd; a deud y gwir i chi roeddwn i wedi dechre edrych ar ochor dywyll bywyd—byth er pan ddaru'r dynion hynny neud sbort am ben fy nhrowsus i.
Mi anghofies ddeud wrthach chi fod Jac wedi deud wrtha i, pan fyddwn wedi blino edrych o gwmpas y ffarm, am ddwad i waelod grisie'i lofft o, a gweiddi arno, ond am imi beidio â dwad i fyny'r ysgol am ei bod hi'n beryg. Wel, fûm i ddim yn hir yn blino edrych o gwmpas y ffarm, oherwydd yr oeddwn i wedi cael tynnu'r sglein oddi ar fy holides ers meitin. Ac i ffwrdd â mi i waelod y grisie, ond doedd yno ddim sôn am Jac, a rhag ofn ei fod o wedi mynd allan heb gofio, mi benderfynes fynd i edrych i'r llofft am dano'n ddistaw bach drosof fy hun. Wedi cyrraedd y top ac edrych o gwmpas yn slei mi weles rwbeth wnaeth imi bron syrthio i lawr. Yr oedd ene ogle clos cyffyle tros y llofft, ac ar ei hyd ar lawr pren budur yr oedd Jac beichio crio, ac o'i gwmpas roedd y dillad glân a phethe erill—lot o bethe na wyddwn i am danyn nhw. Wedi ei chael hi allan yn iawn dyma fo'n ail edrych ar y pethe, yn cymryd gafael mewn cacen, ac yn edrych arni hi, a'i ddagre yn powlio i lawr, yna