Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymryd gafael yn y papur toffi, a'i agor, a'i gau wedyn a'i roi heibio'n ofalus, yna gafael mewn afal coch oedd mam wedi ei ffeindio yn rhywle ac wedi ei wthio i'r cadach. Dyma fo'n agor papur arall, ac yn hwnnw roedd ene lot o frechdane tene wedi eu torri gan mam. Ar hyn dyma fo'n beichio crio wedyn, ac yn deud, "O mam annwyl," medde fo, "mi fûm i'n cael bara caled gennoch chithe pan oedd nhad heb ddim gwaith, ond roedd o reit hawdd ei fyta am mai chi oedd yn ei dorri, ond am y bara yn y tŷ yma,"—a dyma fo'n profi tamed o frechdan mam, ac yn dechre crio wedyn. Wedi iddo ddwad ato'i hun dipyn dyma fo'n ail chwilio, ac yn dwad o hyd i ddarn tair wedi ei rwymo mewn cornel cadach poced. "Mor debyg i mam," medde fo, gan stwffio'r cadach poced i'w geg. Roedd hi wedi rhoi pethe yn y cadach yr un fath yn union â phe buase hi wedi bod yn forwyn mewn ffarm ei hun. Fedrwn i ddim dal chwaneg, ac mi eis am rownd arall i weld y ffarm. Toc mi glywn Jac yn gweiddi amdana i, ac mi eis ato, ond erbyn hyn yr oedd o'r un fath â phan fydde fo'n dwad heibio'i gartre ar gefn y gaseg las. Ond mi wyddwn i'n wahanol, ac eis adre gynted ag y medrwn i, a'r peth cynta wneis i ar ôl cyrraedd oedd chwilio am fy hen glôs pen glin. Does gen i rwan ddim eisio bod yn debyg i was ffarm.