IX.—DYSGU SERYDDIAETH
MAE gen i ofn bod yr hen scŵl wedi colli ei ffydd ynof, ond wedi'r cwbwl rydwi wedi dwad i gredu yn y peth mae o'n alw'n seryddiaeth, a'r un peth sydd wedi achosi'r ddau, a'r diwedd fu imi benderfynu na wna i byth fyta fferins ecstra strong eto, ac fel hyn y bu hi. Wil y Llan a fi a Jac y Foel sy'n cael y bai. Rywfodd neu gilydd mi ddaru Wil a fi gymryd ein harwain gan Jac, ac fel y bydd mam yn deud weithie, does o ddrwg ond drwg i ddisgwyl, ond ar yr hen scŵl oedd y bai yn gadael yr ysgol. Fo sy'n canu'r harmonia yn yr eglwys ar y Sul wyddoch, a gallswn feddwl mai fo sy'n edrych ar ôl yr eglwys hefyd, o achos os bydd ene rwbeth yn yr eglwys yn ystod y dydd, hyd yn oed y wraig yno'n sgubo'r llawr a dystio, mae'n rhaid i'r hen scŵl gael rhedeg yno. Ond y diwrnod yma, ryw bythefnos yn ôl, roedden nhw'n cael harmonia newydd i'r eglwys, ac yno roedd y scŵl o hyd. Mi fu y diwrnod cyntaf yn sefyll yn y drws bron drwy'r dydd i edrych oedd hi'n dwad. A drannoeth, wedi iddi ddwad, mi aeth i'r eglwys i'w helpio nhw i'w gosod yn ei lle, ac i bracteisio arni gan redeg i'r ysgol yrwan ac yn y man i edrych oedd popeth yn iawn. Miss Roberts oedd yn gofalu amdanom ni pan oedd o i ffwrdd, a rhyw hen ffifflen falch mae pobol yn ei galw hi, a does ar neb mo'i hofn. Mi ddechreuodd herian y bechgyn drwy roi'r llyfre newydd i'r gnethod i ddarllen, a'r hen lyfre i'r bechgyn, ond pan oedd hi yn y cwpwr yn nôl tshôc i sgwennu ar y bôrd, mae'r gnethod yn eu newid nhw, a phan ddaeth hi yn ei hôl be wele hi ond y gnethod efo'r hen lyfre, a'r