bechgyn efo'r llyfre newydd. Mae'r gnethod a'r bechgyn yn gryn ffrindie wyddoch, yn enwedig yr amser yma ar y flwyddyn, amser hel cnau. Ryden ni'n mynd i'r Tyno ar ganol dydd, a'r gnethod efo ni, ac mae'r bechgyn yn hel y cnau a'r crabas oddi ar y coed, a'r gnethod yn eu dal nhw yn eu bratie, ac yna mae hi'n hanner yn hanner rhyngon ni. Mae gan bob un eneth neilltuol yn dal ei brat iddo. Myfanwy'r Llan sy'n dal ei brat i mi, a hi newidiodd ei llyfr efo fi yn yr ysgol, ac yr ydwi'n cael ei chympeini hi adre o'r ysgol y nos. Mae hi'n chwaer i Wil wyddoch, ac yn ddiweddar, er pan mae hi wedi dwad i'r parti, mae hi a fi a Wil yn cael teparti bob nos ar y ffordd adre. Wedi dwad i'r Mynydd Bach ar y ffordd adre, i gornel o olwg pobol, mae Myfanwy yn datod y cadach sydd ganddyn nhw'n dal cinio ac yn ei daenu o ar lawr, ac yr yden ni wedi trefnu i beidio â byta'n cinio i gyd er mwyn inni gael peth yn sbâr. Shot neu fara llaeth wedi grasu sydd gen i y tywydd cynnes yma fel rheol, a hwythau frechdan jam, neu sangwij bacn. Mae Myfanwy a Wil yn cymryd fy sbâr i, hi'n byta o'r caead, a Wil yn byta o'r tun, ac yr ydw inne'n byta sbâr eu brechdane jam neu sangwij hwythau. Mae'r teparti yma'n ardderchog mi fedra ddeud wrthach chi. Mae Myfanwy'n leicio byta o'r hen gaead, medde hi. Ac erbyn meddwl, mae'n llawn cystal gen inne'r caead â'r tun yrwan. Ac ar ganol dydd, rydwi'n tywallt fy mwyd iddo fo bob yn dipyn, a'i fyta fo felly. Ar ôl gorffen y sbâr yma ryden ni'n byta cnau, a chan mai geneth ydi Myfanwy rydwi'n torri'r blisg iddi efo nannedd.
Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/79
Gwedd