"Wyddoch chi be wnawn ni lads," medde Jac y Foel, pan oedden ni ein tri efo'n gilydd rywbryd amser cinio yn cynllunio sut i gario'r rhyfel ymlaen, "wyddoch chi be wnawn ni lads," medde fo, "chware triwels." Wel, yr oedden ni'n ddigon dewr i rwbeth y pnawn hwnnw, ac mae gen i ofn, wedi colli'n penne efo'n dewrder, dyna ddeudodd nhad wrtha i, beth bynnag, y nosweth honno. Ac i chware triwels â ni i goed y Plas. Mi wyddoch bedi hynny, peidio â mynd i'r ysgol er i'r gloch ganu, a'ch tad a'ch mam yn meddwl eich bod chi yno. Pan oedden ni ar y Dolydd yn mynd, dyna ni'n gweld lot o garne'r ebol yn tyfu yno, a rhai ohonyn nhw wedi gwywo ac wedi sychu. "Wyddoch chi be wnawn ni lads," medde Jac y Foel, "cael smôc efo rhein, mae gen i fatshis a hen gopi book wedi'i orffen i'w rholio nhw ynddo fo," a dyna ni ar ein hunion yn dechre ar y gwaith. Mae rhyw ffefar smocio wedi dwad at y bechgyn yn ddiweddar, doedden ni rioed wedi meddwl am y peth o'r blaen, ond mi ddaeth y person i'r ysgol dipyn yn ôl, ac mi ddeudodd na chae'r bechgyn ddim smocio, neu gwae nhw os dalie'r plismon nhw, ac yn syth mi ddaeth rhyw ffefar drosto ni i gyd; roedden ni'n teimlo rywsut na fuase dim byd ond smocio yn ein gneud ni'n gyff- orddus. Wel, y peth gore i'w smocio ydi baco, ond rhaid cael pres i gael hwnnw, a doedd dim i'w neud ond bod yn fodlon ar garne'r ebol a hen gopi book. Doedd Wil y Llan a finne ddim wedi dechre smocio tan y pnawn yma, a ffwrdd â ni ati hi gymint fyth.
Wrth ddechre smocio roedden ni'n chwerthin ac yn siarad ac yn falch ein bod ni'n gymint o ddynion. Ond ymhen tipyn, mi steddes i i lawr ar y cae, doeddwn i ddim yn teimlo'n dda iawn, ac mi feddyl-