ies mai wedi cynhyrfu tipyn efo helynt y dydd oeddwn i, gan nad ydw i ar y gore yn fachgen cry, fel bydd mam arfer deud. Ymhen tipyn dyma Jac y Foel yn eistedd, a Wil y Llan mewn dau funud ar ei ôl o. Doedd ene fawr o siarad rhyngom ni wedi inni fod yn smocio dipyn, roedd pob un fel pe bae o'n mwynhau gormod ar ei smôc i siarad, a phob tro y siaradai Jac neu Wil, roeddwn i'n eu clywed nhw'n siarad yn ffast ofnadwy. "Paid Wil â siarad mor ffast," medde fi wrth Wil yn y man, "Dydwi ddim yn siarad yn ffast was," medde fo, "ti sy'n siarad yn ffast."
"Rydech chi'ch dau yn siarad yn ffast ofnadwy," medde Jac toc.
"Dim ffastiach na ti," medde Wil, "rwyt ti'n siarad fel melin."
"Nag ydw wir," medde Jac, ac mi fu agos iddyn nhw ffraeo, ond fflatio i lawr ddaru'r ddau, ac mi fu distawrwydd am dipyn.
"Wyddoch chi be fechgyn," medde Wil ymhen tipyn, "roedd yr hen ddyn yr oedd y scŵl yn sôn amdano'r wsnos dwaetha'n deud y gwir wedi'r cwbwl, er y'n bod ni'n meddwl mai un gwirion oedd o."
"Pa ddyn," medde fi.
"Y Galileo hwnnw fu'n y jêl am ddeud bod y ddaear yn troi," medde fo, "mae hi'n troi hefyd." Ddeudodd neb yr un gair am dipyn, ond toc dyma Jac yn torri ar y distawrwydd drwy ddeud, "Wil," medde fo, "rydwi o'r un farn â ti."
Roedd yn dda iawn gen i glywed y ddau yn siarad fel hyn, am fy mod inne'n gweld y ddaear yn troi ers meitin, ond roeddwn i'n ofni mai rhwbeth oedd arna i. Roeddwn i rwan yn gweld mod i'n meddwl