X.—Y BUDDUGWR
DYMA'R Band of Hope wedi dechre unweth eto, a does gen i ddim eisio mynd iddo fo eleni, o achos bod y plant yn gneud sbort am fy mhen i bob tro y cofian nhw am Fand of Hope, ac mi fydd yn ddigalon iawn arna i yn y cwarfodydd pan na fydd ganddyn nhw ddim byd i gofio amdano ond Band of Hope. Y rheswm am hynny, wyddoch, ydi i mi roi fy nhroed ynddi hi yng nghonsart y Band of Hope, mis Mawrth dwaetha, ac yr ydw i wedi penderfynu na wna i byth adrodd mewn cwarfod eto. Yn y cwarfod dwaetha y dechreues i ar y gwaith, ac y diweddes i hefyd. Rydwi'n siŵr eich bod chi'n synnu at hogyn mawr fel fi na buaswn i wedi adrodd rhyw fymryn o rwbeth yn rhywle cyn hynny, ond felly y buo hi, beth bynnag. Yr un sy'n edrych ar ôl ein Band of Hope ni ydi Miss Morfudd Williams, merch y gwnidog, ac y mae hi'n ddigon o shou o bropor, a dyna ei bai hi, o achos pan fyddwch chi wedi penderfynu peidio â gneud rhwbeth, mi ddaw Miss Williams atoch chi, mi roiff ei llaw ar y'ch pen, ac mi wenith arna chi, a dyna chi fel cŵyr yn ei llaw hi'n syth—mi feder eich troi fel y myn hi wedyn.
Wel i chi, hi sy'n edrych ar ôl y Band of Hope, ac y mae'r blaenoried, a phobol felly, yn ei chanmol hi ymhob consart am dynnu'r plant allan. Ond yr oedd ene un nad oedd Miss Williams erioed wedi medru ei dynnu o allan, a hwnnw oedd Tomi Sarah Jones. Ond o ran hynny doedd hi rioed wedi gofyn imi neud dim, ac mi benderfynes mai gwybod roedd hi mod i'n ormod o giamstar iddi, ond mi ddeudodd Jac y Foel ar ffrae un diwrnod mai gwybod na