"Rhoswch chi, Llew," medde nhad, "ydi hwne'n clymu'n iawn deudwch-gwybed yn cyfarth?"
"O," medde Llew, "ymadrodd barddonol ydio, Tomos Jones, a dyna lle mae'r biwti yn y geirie. Mae'r cyfarthwrs yn meddwl mai cŵn mileinig yden nhw, ond i'r buddugwr, dyden nhw'n ddim ond gwybed yn cyfarth." "Deudwch chi hynny,' medde nhad. "Tomi," medde fo wedyn, "dyna iti adroddiad ffyrst clas," ac o'r golwg y bu raid i Tomi fynd i ddechre ei ddysgu o, ac wedi imi fynd o'r golwg, dyna nhad yn deud, "Diar mi," medde fo, "mae'n rhaid fod y bachgen yma'n un garw, iddyn nhw ofyn iddo fo adrodd yn yr oed yma."
Mewn rhyw bythefnos yr oeddwn i adrodd "Y Buddugwr," ac wedi i'r cwarfod ddwad, ac inni ganu ac ateb tipyn, dyna alw arna i; a ffwrdd â mi ymlaen, ond mi glywn rwfun yn chwerthin, ac mi sbwyliodd hynny bethe. A chyn belled ag y medra i ddallt oddi wrth Miss Williams, fel hyn yr adroddes io:-
Fuddugwrdewrdosyndyflaeniennillmwyowobrauaphaidâhidio'rgwybedmânsy'ncyfarthwrthdysodlau."
Wedi imi orffen, dyma tshiars byddarol, a churo traed, nes i Miss Williams eu stopio nhw. Ar y diwedd dyma hi yn fy ngalw i'n ôl, a deud wrtha i am beidio â'i anghofio fo, ac am ddwad ati hi yrwan ac yn y man i'w ddysgu o'n well, ac y cawn ei adrodd o yn y consart ymhen pum mis. Dyma fi adre ar ddau gam, ac yn deud y stori. Wel yn wir, wyddech chi ddim ar draed pwy oedd mam yn