cerdded am wsnos wedyn. Fedrwn i yn fy myw gysgu ar ôl mynd i ngwely y nosweth honno, o achos bod fy nghalon i'n curo cymint wrth feddwl am y consart, ac mi glywn nhad a mam yn siarad am y drws â mi—tŷ a siambar ydi'n tŷ ni, fel y gwyddoch chi. "Tomos," medde mam, "rhaid i chi roi'ch siwt wedin y nosweth honno, a rhaid i minne roi nhipyn gore, o achos mi fydd pobol yn pwyntio aton ni wyddoch, ac yn deud mai ni ydi rhieni Tomi Jones yr adroddwr." "Ia," medde nhad, "gore ydi inni ymddangos yn symol teidi er mwyn y bachgen."
Ymhen yr hwyr a'r rhawg, dyma ddiwrnod y consart yn dwad, yr oedd y consart i ddechre am saith, ac yr oeddwn inne ar y set wrth y tân ers pump o'r gloch, wedi ngneud fy hun yn barod. Yr oedd mam wedi ngneud i i fyny i'r dim, wedi rhoi oel yn fy ngwallt i, a'i neud o'n ddonci ffrinj a phethe felly, a chan fy mod i wrth y tân ac yn chwysu wrth feddwl am y consart, yr oeddwn i'n teimlo'r oel yn rhedeg i lawr fy ngwddw a ngwyneb i o hyd, er fy ngwaetha, a phob hanner awr roeddwn i'n gorfod sefyll o flaen mam i ddeud fy adroddiad, ond anodd iawn oedd ei phlesio hi. "Da ti," medde hi, pan fyddwn i ar ganol lein, "tyn dy ddulo o dy bycede, a phaid â sefyll un troed ar y llall hefyd, drycha fel y mae ôl hoelion dy esgid di ar gefn dy esgid arall di. O! diar mi," ac i ffwrdd â hi i nôl brwsh i frwshio ymaith ôl fy ngwendide. Yn y man fe ddaeth nhad adre, ac wedi llyncu tamed, ffwrdd â fo a mam i hwylio.
Ond hwyrach y buasech chi'n leicio gwybod sut ddillad gore sy ganddyn nhw, pan fyddan nhw'n gwisgo eu dillad gore i gyd. Gadewch imi ddechre efo mam. Y mae ganddi hi het ryfedd iawn, rhyw