Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

siort o dôc mae nhw'n ei galw hi, cêp blwsh sydd ganddi hi, a ffrog o rwbeth mai hi'n alw'n Ffrensh Mreina, sane ffansi a sgidie lastig, a brôtsh ar ei gwddw fel clo clap; a deud y gwir i chi, dydw i ddim yn leicio'r brôtsh yma, ond y mae hi'n mynd yn iawn efo'r ffrog Ffrensh Mreina, medde mam, ac anamal mae hi'n eu gwisgo nhw. Ei hen ddillad wedin sydd gan nhad, ond ei het, trowsus plod du a gwyn, gwasgod felfet, a chôt y mae mam yn alw'n mwnci jeced, a het mae nhw'n alw'n Jim Crow. Wn i ddim yn y byd pwy oedd James Crow, ond pwy bynnag oedd o doedd o fawr o law at neud hetie, dyna'r pam mae'n debyg eu bod yn ei alw'n Jim. Wrth inni gychwyn allan dyma mam yn codi ei ffrog, ac yn ei ffasno hi am ei chanol efo seffti pin, rhag y baw medde hi, ond noson braf oedd hi, ac mi wyddwn mai paratoi yr oedd at yr adeg y bydde pobol yn ei dangos allan fel mam Tomi Jones yr adroddwr, ac eisio i'w sane fod yn y golwg. I ni, dau beth pwysig oedd yn y cwarfod,—Joe'r Hafod efo'i gramoffon, a finne efo fy adroddiad.

Wedi cyrraedd y capel, yr oedd o'n llawn, a phawb yn disgwyl am y Llywydd-Mr. Jones y Siop. A dyma ddechre. Un o'r pethe cynta oedd detholiad ar y gramoffon gan Mr. Joseph Roberts yr Hafod, a dyma Joe ymlaen efo glamp o giard felen ar draws ei frest, a blodyn gneud yn ei gôt. "Enw'r gân," medde Joe, "ydi "Queen of my Heart a dyma'r gramoffon yn cychwyn fel hyn, "Sh-sh-sh- sh-, Queen of my-sh-sh-sh, Queen of my-sh-sh," ac felly ymlaen, nes aeth pawb i chwerthin, a Joe i gochi at ei glustie, dyma fo'n ei hysgwyd hi reit da, ac yn dechre wedyn, a dyma hithe'n cychwyn, "Sh-sh-sh-Queen of my-sh." Cipiodd Joe hi i