Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyny ynghanol chwerthin mawr, a ffwrdd â fo i'r festri, ac yr oedd peth fel hyn yn fy ngneud inne'n anesmwyth.

Wedi lot o bethe wedyn, dyma alw ar Joe drachefn. Roedd o wedi cael amser i drwsio'r gramoffon erbyn hyn, a dyma fo ymlaen, "Enw'r gân," medde fo, "ydi 'Het silc fy Nain a dyma'r gramoffon yn cychwyn, rwbeth tebyg i hyn,—"Oyoyoyoy—a welsoch chi—oyoyoy—het—y—het—y—het—y—het—y—silc fy nain—oyoyoyoy," ac felly ymlaen, a phawb yn chwerthin nes oedden nhw'n eu dyble, a Joe'n gwylltio, ac i ffwrdd â fo. "Rhoswch chi nes daw Tomi ymlaen," medde nhad yn ddistaw wrth mam.

Toc dyma'r arweinydd yn deud, "Yn awr mi gawn adroddiad gan Master Tomi Jones—"Y Buddugwr "." Pan glywodd o'r gair "Master," dyma Jac y Foel yn rhoi pwff o chwerthin, ac mi drodd fy nghalon i wrth ei glywed o. Pan oeddwn i'n gadael y sêt am y platfform, dyma mam yn deud yn ddistaw, "Gofala di sefyll yn syth rwan, a phaid â rhoi un troed ar y llall, na dy ddulo yn dy bycede a phaid â rhoi dy fys yn dy geg"; a ffwrdd â fi, mi sefes reit ddewr, a chychwynnes. "Y Buddugwr," medde fi, ond y funud honno mi deimlwn fy nghorn gwddw'n mynd reit sych, a rhaid oedd imi lyncu mhoeri er mwyn ei feddalu o, ac wedi imi ddechre fedrwn i ddim peidio, a llyncu fy mhoeri y bûm i am sbel. "Y Buddugwr," medde fi wedyn, ond dyma fi'n dechre gweld y lampie'n mynd allan, a'r lle yn mynd yn dywyll, a welwn i neb yno ond mam, roedd hi'n adrodd gymint fyth yn ddistaw, ac mi wyddwn mai'r "Buddugwr" oedd hi'n adrodd, ond doeddwn i ddim haws. Mi tries hi wedyn yn y twllwch. "Y Buddugwr," medde fi, ond mi nalies fy hun yn