Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhoi un troed ar y llall, a nwylo yn fy mhycede, a sbwyliodd hynny bethe wedyn.

Erbyn hyn roeddwn i'n dechre clywed pwffian chwerthin, ac mi benderfynes fynd ymlaen er gwaetha pawb. "Y Buddugwr," medde fi wedyn, ond erbyn hyn roeddwn i wedi anghofio'r darn, a doedd dim i'w neud ond mynd i lawr, ac i lawr â mi heb weld neb na dim. Yr oedd fy adroddiad i'n go agos i'r diwedd, fel y cychwynnodd pawb adre'n fuan ar ei ôl o, ac mi sylwes ar y ffordd fod mam wedi gostwng ei ffrog fel na fedre neb weld ei sane ffansi hi.