XI. POULTRY MERCHANT
DDARU mi ddim chware mynd i'r dre i werthu wye heb ddeud "ia" efo Bob y nghefnder neithiwr wrth iddo ofyn imi, o achos yr ydwi wedi digio wrth bopeth sy'n perthyn i wye ar ôl yr wsnos dwaetha, ac y mae Bob wedi digio efo fi braidd, o achos mae o'n fistar ar y gwaith o werthu wye heb ddeud "ïa." Am dipyn o dro yn edrych am nhad y mae Bob. Y mae o yma er ddoe. Ond rhaid i mi ddeud y stori i chi.
Nhad sy'n sâl wyddoch, yn sâl iawn medde nhw, er ei fod o'n well rwan nag y bu o, ac mae'r doctor wedi bod yma a phopeth. Ceffyl broc oedd gan y doctor, ac roedd ganddo fo was yn eistedd yn ei ochor o cyn sythed â phrocar, a het silc am ei ben, yn rêl swel, mi alla ddeud wrthach chi. Y cryd glas sydd ar nhad, a Siân y Fferins Duon ddaru ffeindio hynny. Mi ddaeth yma cyn gynted y clywodd hi fod nhad yn sâl, hi sy'n diweddu pawb ffordd yma, wyddoch—eu rhoi nhw'n eu harch ar ôl iddyn nhw farw ydi hynny. Ond decyn i na fuase fo ddim yn edrych yn neis i beidio â dwad i edrych am bobol ond pan fyddan nhw wedi marw, felly mi ddaw Siân pan glyw hi fod nhw'n sâl iawn. Ac mae nhw'n deud mai chydig iawn o obaith sydd am neb sâl os gwelan nhw Siân yn edrych amdanyn nhw. Mae nhw'n torri'u clone'n syth. "Deryn corff," mae pobol yn ei galw hi.
Dyma hi acw ryw nosweth neu ddwy ar ôl i nhad ddwad adre'n sâl. Roedd hi'n dwad i fyny'r buarth dan fwmian canu (roeddwn i yng nghornel y buarth ar y pryd), ac yn curo'r drws, a dyma mam i'r drws.