Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mi aeth gwyneb mam yn wyn pan welodd hi Siân, o achos ddaru hi ddim meddwl o'r blaen fod nhad mor sâl. Cyn gynted ag y gwelodd hi mam dyna Siân yn dechre crio, ac yn deud, "Sâl iawn ydio, Sarah Jones bach.

"Ia, wir," medde mam; "mae o'n cwyno cryn dipyn."

"Bedi mater ar y cradur tlawd?" medde Siân. "Wn i ddim yn iawn," medde mam: "poen mawr yn ei ochor sydd ganddo fo."

"Yr hen gryd melyn ene eto," medde Siân. "Nage, wir," medde mam; "rydwi'n siŵr o hynny, o achos yn yr ochor arall mae'r boen, ac mae'i groen o'n hollol glir."

"Fuo'r doctor yma?" medde Siân. "Do," medde mam.

"Be mae o'n ddeud?" medde hi.

"Rhoi rhyw enw diarth iawn ddaru o arno," medde mam; "rhywbeth tebyg i 'bersli,' ond fod o'n dechre hefo bliw.' Be ddeudodd o oedd ar dy dad, Tomi?"

"Pliwrisi, mam," medde finne; roeddwn i wedi bod yn practeisio'r gair.

"Ia, dyna fo," medde mam; roeddwn i'n meddwl fod ene bliw' yn rhywle ynddo fo."

"Bliw' ydi'glas,'" medde Siân. "Yn siŵr i chi, Sarah Jones, mai' cryd glas' ydi'r enw Cymraeg arno fo. O! machgen bach i," medde hi (am nhad roedd hi'n sôn rwan, wyddoch), "does fawr o obaith ohono fo. Daswn i chi, Sarah Jones, fuaswn i byth yn boddro efo'r hen ddoctor ene.

Mae ene ddoctor dail ardderchog yn y dre, medde nhw. Mae o'n ciwrio cryd melyn ar slap; tydw i ddim wedi clywed am y cryd glas yma o'r blaen; ond be sydd