Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn lliw, yntê, Sarah Jones bach? Os meder o fendio cryd melyn, pam nad cryd o liw arall, yntê? Mi gewch botel ganddo am driswllt, a'i gosodith o ar ei draed mewn munud."

Roeddwn i'n meddwl mai ddim yn gweld nhad ddigon sâl oedd Siân, a'i bod hi a'r doctor dail yma'n bartnars, ond ddeudes i ddim byd. Y diwedd fu, beth bynnag, iddi hi berswadio mam i gael potel gan y doctor dail, a pheidio â gadael i'r doctor arall wybod. Ond y peth oedd, sut i gael rhwfun i fynd i'r dre, a sut i gael y pres i dalu am y ffisig, o achos doctor y clwb ydi'r doctor iawn, wyddoch, ac yr yden ni yn ei gael o am ddim.

Fel arfer, de darodd mam ar gynllun—mynd i'r dre i werthu cwpwl o gywion. Tri swllt y cwpwl oedden nhw i fod; ac yr oedd ganddi hi un chwiaden hefyd, ac yn disgwyl dau swllt am honno. Cyn bo hir, yr oedd hi a nhad yn y siambar mewn cysidrins mawr. Toc dyma mam i'r drws, ac yn gweiddi arna i i mewn. Pan ddois i, dyma fi'n gweld yn syth fod ene ryw eidïa fawr yn ei phen hi, o achos roedd hi wedi pletio'i cheg.

"Tomi," medde hi, pan ddois i mewn, "fedra i dy drystio di, tybed?"

"Nhrystio i be?" medde finne.

"Wel," medde hi, "dy dad a fi sydd wedi bod yn cysidro ac yn meddwl dy fod di'n fachgen mawr rwan, a fedra i ddim mynd i'r dre i werthu'r cywion, a gadael dy dad, ac mae gen i flys trio'r doctor dail ene. A dyna oedden ni'n feddwl, hwyrach y gallet ti fynd am y tro, a gneud y gwaith os gwrandi di ar gynghorion dy fam; o achos peth peryg ofnadwy ydi'r cryd glas wyddost, a fedra i ddim fforddio gadael dy dad,"