ffenest, ryw waith dau funud o'r farchnad medde hi, a brysia adre Tomi, gael i dy dad gael dôs. Does gen inne fawr o ffydd yn y ffisig doctor ar ôl i Siân ddeud chwaith, a phaid â mhela â dy goler, a dos rwan machgen i."
Wedi imi gychwyn mi glywn mam yn gweiddi: "Tomi, ydi dy dei di'n syth?"
"Ydi mam," medde fi ar dop fy llais.
"Oes gen ti gadach poced?" medde hi wedyn. "Oes," medde finne.
A ffwrdd â fi efo'r cywion, roedd gen i dair milltir i gerdded am y trên, ac roeddwn i wedi blino'n ofnadsen wedi cyrraedd y stesion. Roedd yno lot iawn o bobol, ac mi benderfynes eu gwatsio nhw, sut oedden nhw'n gofyn am diced, i weld oedden nhw'n deud rhwbeth am y "dyrn" yma wrth ofyn, ond ddaru neb. Pan oedd y dyn o mlaen i yn gofyn, roedd hwnnw eisio mynd yn bell iawn, a dyma'r siopwr oedd y tu ôl i'r cowntar yn gwerthu ticedi yn gofyn iddo ai "singl" oedd o eisio, ac mi ddeudodd yntau mai ïa. Wyddwn i ar y ddaear pam ei fod o'n gofyn "singl" os nad oedd o arfer a gwerthu ticedi wrth y cwpwl, o achos mi gewch bâr o benwig cochion am geiniog a dime, ond rhaid talu ceiniog am un, dyna chi felly yn ennill dime ar bâr. Mi feddylies inne mai felly oedd hi efo ticedi, ond doedd gen i ddim iws i ddwy, a dyma fi'n deud "singl" wrth ofyn am diced, ac yn talu grôt amdani. Dyna fi mewn picil wedyn, o achos roedd mam wedi deud y buase'r ticed yn saith geiniog, ond doeddwn i ddim yn leicio gofyn i neb, rhag iddyn nhw weld mai dyma'r tro cynta imi fynd i'r dre ar fy mhen fy hun, ond mi feddylies mai cwpwl o dicedi hwyrach oedd dyrn ticed, a'ch bod chi'n eu cael nhw'n rhatach,