Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hunangofiant Tomi.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac y gallech gadw'r llall tan ryw dro wedyn, ond doedd mo'r help. I mewn yr eis i'r trên, beth bynnag, a dyma ryw ddyn yn deud wrth un arall rywbeth am "poultry merchant." "Diar mi," medde'r llall, "mi neith ei ffortiwn, tydi'r cyw coch ene yn dew yn ei dalcen?" Ond chymeres i ddim arna eu clywed nhw, roeddwn i am ddangos mod i'n medru gwerthu ffowls cystal â'r un ohonyn nhw. Wedi cyrraedd y dre mi gymerodd y dyn wrth giât y stesion fy nhiced i, ac mi ddarum nodio'n o dda arno wrth basio er mwyn iddo fy nabod i wrth imi ddwad yn f'ôl. Fûm i ddim yn hir yn ffeindio'r siop chwech a dime, a'r siop sangwij, ond mi feddylies y cawn i fwy o flas arnyn nhw ar ôl gwerthu'r cywion. A deud y gwir i chi roeddwn i'n teimlo braidd yn unig erbyn hyn, wrth weld pawb yn gwibio drwy'i gilydd, a neb yn cymryd sylw ohono i na nghywion, a minne wedi meddwl y bydde pawb am y cynta yn dwad ata i, ond mi benderfynes watsio am Mari Pentre Felin. Doeddwn i ddim yn ei nabod hi, ond roeddwn i wedi ei darlunio i mi fy hun. Pan oeddwn i ynghanol crowd, gryn dipyn o'r farchnad, dyma ddynes reit neis ata i, ac yn deud â llais fel llais mam pan fydd hi glenia wrtha i, "Machgen i, yma'ch hun ydech chi?" "Ia m'm," medde fi, ac mi gymeres yn bur garedig ati, am ei bod wedi cymryd sylw ohono i, o achos roeddwn i jyst a chrio.

"Dowch efo fi," medde hi, "ac mi ddangosa i'r farchnad i chi."

A ffwrdd â fi yn ei llaw hi. Mi edryches am Mari ymhobman, ond weles i moni. "Mae eisio talu'r doll wyddoch," medde'r ddynes neis yma, "ond hidiwch befo, mi tala i hi drostoch chi," a'i thalu wnaeth hi. Caredig yntê? Mi aeth â fi a gosododd fi