ynghanol rhes o ferched efo cywion gan bob un, a dyna lle roedd ene siarad a ffraco, nes oedd arna i braidd ofn,—un yn deud y mynne hi hyn a hyn am ei chywion, a'r llall yn deud wrthi am fynd at ei hewyrth Dic. Wn i ddim pwy oedd ei hewyrth hi, os nad iddo fo oedd hi'n cadw tŷ neu rwbeth. Toc dyma ddyn ata i, a gofyn faint am y cywion. Mi ddeudes inne, ond chwerthin ddaru o a mynd i ffwrdd. Wedi imi aros hydoedd, dyma'r wraig neis honno ata i, ac yn gofyn imi sut oedd pethe'n dwad ymlaen hefo fi. Mi ddeudes inne nad oedd yno ond un wedi gofyn eu prisie nhw. "Welwch chi," medde hithe, "gwan iawn, iawn, ydi'r farchnad heddiw, a rhag i chi aros yma i ddim byd a chario'r cywion adre wedyn, mi ro i ddau a naw i chi am y lot, dau swllt am y cywion, a naw ceiniog am y chwiaden, o achos mae'r chwiaden yn dene ofnadsen."
Wel, be naech chi efo gwraig oedd wedi bod mor garedig, yn enwedig gan fod y farchnad mor sâl. Mi ddeudes, "thenciw m'm," ac mi adawes iddi eu cael nhw. Mi wyddwn yn iawn na ddeude mam ddim byd am i mi neud hynny efo dynes oedd wedi bod mor garedig. Ac i ffwrdd â fi o'r farchnad at y doctor dail. Mi ddeudes hanes nhad, ac mi wnaeth yntau botel imi, a bocs o bils, a deud na wnae'r botel ddim byd heb y pils, a'r bil medde fo oedd tri a thair.
Doedd gen i ddim ond dau a naw, a thair ceiniog y sangwij, a thair ceiniog yn ôl ar ôl cael ticed, a cheiniog y doll a dalodd y wraig drosta i,—tri a grôt oedd hynny. Mi dales i'r doctor, ac yr
oedd gen geiniog yn sbâr. "Gwd bei, sangwij," medde fi, ac mi brynes gnegwarth o gnau mwnci i neud i fyny, a ffwrdd â fi at y trên. Wrth fynd drwy'r giât mi