Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

adeg eu cylchwyl yn Llangollen yn Awst, 1877; ond barnent oll , er fod y bwrdd yn hen, nad oedd mor hen a hyny.

Y mae tref Corwen yn llechu yn nghesail Berwyn, ac yn ymfwynhau ar fin y Dyfrdwy. Y mae y mynydd uchel sydd uwch ei phen yn garedig iawn yn sefyll rhwng ei phreswylwyr a'r ystormydd cryfion y gwyr trigolion y pentrefydd cymydogaethol am danynt, ond fel iawn am ei ragorwaith y mae yn cadw gwyneb yr haul oddiwrthynt am rai wythnosau yn nhrymder y gauaf. Ryw haner milldir i'r de-orllewin o'r dref, ar y ffordd fawr o Lundain i Gaergybi, y mae pontfaen gadarn wedi ei chodi dros yr afon. Oddiar y bont hon ceir y fath olygfa odidog ar yr afon am tua milldir ar i fyny sydd yn ddigon i yru y mwyaf rhyddieithol yn fardd dan eneiniad anian ei hun. Y mae gwyneb yr afon yn ymddangos ar dywydd teg fel gwydr gloyw, ac ar fin yr hwyr gellir gweled y coedydd cyfagos âg wybren y nefoedd yn ymgomio gyda'u gilydd yn y dwfr. Ar ochr Berwyn mae lle a elwir sedd Owain Glyndwr, neu Ben-y-pigyn, lle, yn ol hen draddodiad hygoelus, y darfu i Owain daflu dagr, yr hon wrth ddisgyn ar gareg a wnaeth argraff ddofn haner modfedd o hyd. Y flwyddyn y priododd Tywysog Cymru gyda'r Dywysoges Alexandra darfu i'r Corweniaid yn ngrym eu teyrngarwch godi adeilad uchel ar ffurf hen fuddai gnoc i ddathlu yr amgylchiad,, ac i gael lle dymunol i ddyeithriaid weled gogoniant y dyffryn islaw. Y mae plwyf Corwen yn llafn un milldir ar ddeg o hŷd, ac o dair i bedair o led. Cynwysa 12,646 o erwau, y rhai a ddosberthir i 1,744 o dir llafur, 3,590 o dir porfa, 700 yn goed-dir, a 6,612 yn fynydd-dir. O fewn y plwyf hwn ceir palas hynafol y Rhug, lle y preswylia yr Anrhydeddus C. H. Wynn, ail fab Arglwydd Newborough o Glyn Llifon, disgynydd un o Bymtheg Llwyth Gwynedd, yn llinach Cilmin Droed-ddu. Y mae Rhug yn enwog ar ddalenau hanesiaeth Gymreig fel trigle llawer pendefig haelfryd, a noddwr clyd i iaith, llenyddiaeth, a defion y Cymry. Ond nid dymunol yw pob adgof am y lle. Yn agos i Rug y bradychwyd y tywysog dewr Gruffydd ab Cynan. Bu ef a Rhys ab Tewdwr o'r Deheubarth mewn brwydr gyda Trahaiarn ar fynydd Carno, yn sir Drefaldwyn, yn y flwyddyn 1099. Enillodd y fuddugoliaeth, fel y daeth coron dywysogol ei hynafiaid yn eiddo iddo. "Ond byr fel llygedyn o haul ar