Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddiwrnod tymestlog fu llwydd a rhwysg Gruffydd, canys y bradwr Meirion Goch a'i hudodd i grafangau Iarll Caerlleon, Llwyddodd hwnw trwy ffalsder i gael ganddo gyfarfod yn gyfeillgar âg Ieirll Caerlleon ac Amwythig, y rhai a ddarparasent gorff mawr o filwyr i ymguddio gerllaw. Cymerodd y cyfarfyddiad le gerllaw Rhug, uwchlaw Corwen, a daliwyd Gruffydd, gan ei ddwyn i Gastell Caerlleon, lle y bu yn garcharor am 12 mlynedd. Ei. warchodlu a ollyngwyd ymaith, eithr nid cyn tori ymaith y fawd oddiar law ddehau pob un o honynt. Hyn o greulonder a gyflawnwyd arnynt er eu hanghymhwyso i ddwyn cleddyf o hyny allan. Felly am 12 ml bu Gwynedd yn gruddfan dan ormes yr estron Huw Lupus, Iarll Caerlleon, a'r Tywysog Gruffydd ab Cynan yn dihoeni yn nghastell ei gormesydd; ac ar derfyn yr amser hwnw Cynfrig Hir a fu yn foddion ei waredigaeth."— (Enwogion Cymru, gan 1. Foulkes, tudal. 426).

Heb fod yn mhell o Rug saif Coed-y-Fron. Dywed llên gwerin fod brawd i'r Barwn Cymer, yr hwn a drigai yn Gwerclas, yn byw yn Ucheldref, a'i fod wedi cael addewid y cai feddianu Coed-y-Fron am yr ysbaid angenrheidiol i dyfu tri chnwd. Yr oedd y Barwn yn naturiol yn meddwl fod ei frawd yn myned i hau rhyw rawn cyffredin ynddi, ond mawr oedd ei siomedigaeth pan ddeallodd ei fod wedi hau cnwd o fês ynddi; ac os gwir y traddodiad, mae yn dra thebyg mai digon prin y mae yr ail gnwd wedi cael ei gludo eto allan o honi. Fodd bynag, mae tyrfa fawr o frain yn preswylio yn y lle yn wastad, pa rai, ar ol bod yn ddiwyd iawn yn degymu hadau gwerthfawr, ac yn trethu amynedd amaethwyr Edeyrnion yn y dydd, a ddychwelant i dangnefedd heddychol Coed-y-Fron i orphwys dros nos.

Y mae Eglwys Corwen wedi ei hadeiladu mewn arddull Francaidd yn hytrach na Seisnig, ac yn cynwys tŵr llydan ar y pen gorllewinol. O dan fwa, yn y pen gogleddol i'r gangell, ceir bedd un o'r Ficeriaid boreuol o'r enw Iorwerth Sulien, yn ddangos mewn cerfiad ar ffurf ddynol, ac o dano yr ysgrifen ganlynol mewn hen lythyrenau: "Hic jacet Iorwerth Sulien vicarius de Corwaen ora pro eo." Y mae yn y fynedfa i'r Eglwys gareg bigfain a elwir "Careg y Big yn y fach rewlyd;" a'r tra- ddodiad yn ei chylch ydyw fod pob ymgais at adeiladu yr Eglwys mewn man arall wedi troi yn fethiant, a bod y sylfaenwyr wedi