Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cael eu harwain mewn modd uwchnaturiol at y lle y saif y gareg hon. Y mae Capel y Rug wedi ei godi, fel y tybir, yn 1637, am fod perchen y Rug yn cwyno o herwydd bod gorlifiad yr afon yn ei atal yn fynych i Eglwys y plwyf. Gadawodd Syr R. W. Vaughan, Bar., yn 1859, y swm o £2,000 fel gwaddoliad tuag at gynaliaeth y curad fo yn gweinyddu yn y lle. Dyma restr o Berigloriaid a Ficeriaid Corwen, a blynyddau eu sefydliad :- Perigloriaid—Roger Ellis, 1537; L. Pyddleston, 1551, (collodd ef y swydd am iddo gyflawni y trosedd o briodi); M. Clennock, LL. B., 1556, (pe buasai Mari fyw ychydig yn hwy cawsai ei ddyrchafu i Esgobaeth Bangor, ond gan iddi farw bu gorfod iddo ffoi i Rufain); E. Meyric, 1560; H. Rainsford, A.M., 1606; O. Eyton, A.M., 1666; W. Wells, 1705; John Wynne, 1727; L. Palmer, 1748; J. Morgan, B.A., 1750; W. D. Shipley, A.M., 1774; Dr. Prettyman, 1782, (cafodd ef ei wneud yn Esgob Lincoln yn 1787); J. Prettyman, 1786; R. Sneyd, LL. B., 1796; J. Dean, B.A., 1808; W. Cleaver, M. A., 1809; J. F. Cleaver, 1812. Ficeriaid-J. Toone, 1533; L. ap David, 1533; R. Salesbury, 1573; J. Roberts, 1578; H. Ednyvet, A. M., 1581; R. Humphreys, 1624; A. Spark, 1637; E. Powell, A.M., 1639; A. Maurice, A.M., 1641; R. Edwards, 1660; O. Eyton, 1665; K. Eyton, A. M., 1705; W. Humphreys, 1713; R. Parry, A.B., 1747; R. Lewis, A.B., 1747; H. Williams, A.M., 1792; R. B. Clough, M.A., 1797; R. B. Clough, 1811; Morgan Hughes, 1830. Sefydlodd y Periglor presenol, y Parch. W. Richardson, M.A., yn 1867. Hyd 1863 yr oedd Glyndyfrdwy yn perthyn i blwyf Corwen, fel y mae eto yn wladol; ond y pryd hwnw ffurfiwyd tref-ddegwm Carog, Mwstwr, a Thirllanerch, a rhanau o drefi Bonwm a Rhagad, i wneud plwyf eglwysig; ac ni a roddwn yma enwau y Ficeriaid sydd wedi bod yno yn gweinyddu o adeg adeiladiad yr Eglwys yn 1859 hyd yn bresenol:—D. Morgan, 1859; E. Evans, 1865; Davies, 1871; R. Owen, 1876. Y mae yn Nglyndyfrdwy hefyd gapeli gan y pedwar enwad ymneillduol, a dwy ysgol ddyddiol, fel mai anfynych iawn y ceir lle mor fychan wedi ei freintio â chynifer o adeiladau crefyddol ac addysgol. Yn mhlith yr Ymneillduwyr y Methodistiaid Calfinaidd a sefydlasant gyntaf yn Nghorwen. Dechreuasant trwy bregethu tua 1790, yn nhŷ un John Cadwaladr, Cyfrwywr;