Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a buont drachefn yn llofft yr Harp, tŷ a gedwid ar y pryd gan Richard White. Sefydlwyd Ysgol Sul yn 1798, a chodwyd capel yn 1803. (Gwel Methodistiaeth Cymru, gan J. Hughes, cyf. 1.). Cawsant eu gwawdio yn helaeth, a'u herlid yn chwerw yn y blynyddau cyntaf; ond aethant ar gynydd cyflym drwy'r cwbl. Yn mhen tua chwarter canrif ar eu hol dechreuodd y Wesleyaid gynal cyfarfodydd crefyddol; yna daeth yr Annibynwyr; ac yn olaf y Bedyddwyr. Y mae gan y pedwar enwad bellach gapelau prydferth, ac achosion lled flodeuog. Y gweinidogion presenol ydynt y Parchedigion W. Williams, (T.C.); J. Pierce, (W.); J. Pritchard, (A.); a H. C. Williams, (B.).

O'r tucefn i Eglwys y plwyf ceir chwech o dai cyfleus wedi eu hadeiladu yn 1750 gan William Eyton, Ysw., o Blas Warren, yn sir Amwythig, er mwyn bod yn drigle i weddwon offeiriaid. Yn un o'r tai hyn y preswylia yn bresenol weddw a merched yr hynafiaethydd godidog, y llenor trylen, a'r Cymro aiddgar Ab Ithel, am yr hwn y dywed Elis Wyn o Wyrfai:—

"Fe wridai y gwladfradwr—ger ei fron,
Gwyrai frig athrodwr;
Lle byddai dystawai stŵr,
Ceuai genau'r coeg hònwr."

Y mae Mrs. Williams yn derbyn blwydd-dâl oddiwrth y Frenhines fel cydnabyddiaeth o wasanaeth ei phriod i lenyddiaeth ei wlad.

Cynwysai poblogaeth plwyf Corwen, yn ol deiliadeb 1871, 2,464 o drigolion, tua 1,100 o ba rai a breswyliant yn y dref. Y mae yn myned ar gynydd parhaus, gan fod chwarel Penarth drwy ddyhewyd J. P. Jones, Ysw., a Mr. Phillips, yn rhoddi gwaith i gynifer o feibion llafur, a bod llinell y Great Western wedi rhoddi bywyd newydd yn y lle. Yr anfantais tuag at adeiladu yw fod y dyffryn mor gul. Yn achlysurol bydd y Dyfrdwy yn tori ar draws pob deddf, a ffrwd y mynydd, fel y dywed Rhuddfryn, yn d'od "ar ei phen yn rhaff ewynog." Nos Lun, Awst 3, 1846, ymwelwyd â'r lle gan daran-dymhestl ddychrynllyd, yr hon a barodd niwed i feddianau, a cholled i fywydau. Ceir yn ngwaith barddonol Cynddelw luaws o englynion ar yr amgylchiad. Dyfynwn a ganlyn:—

"Adeg du osteg a dwysder—ydoedd,
Ie, adeg dwfn brudd-der;
Mal fai pang drwy'r eangder,
Gan lesgau hyd seiliau'r ser.