Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Curwlaw mawr dirfawr dyrfau—ddylifodd
Gan ddolefain gwaeau
Dinystr fel môr a'i donau
Y nos hon sy'n ymnesan.

"Tre Gorwen addien huddwyd—â dystryw,
Dwysder gaed yn Nghynwyd;
Bro lon Edeyrnion—darniwyd
Yr holl le gan lifddwr llwyd."

GWYDDELWERN

Ystyr y gair Gwyddelwern, yn ol y Dr. W. O. Pughe, yw "tir rhoslyd yn llawn prysglwyni (a moor or meadow overgrown with bushes);" ac wrth edrych ar ansawdd y fan, cawn le i gredu fod a fyno hyn fwy âg enw y lle nag sydd gan Wyddelod yr Ynys Werdd, yn ol yr hen dyb werinaidd. Ceir amryw enwau yn y plwyf, megys y Wern Ddu, Ty'nywern, &c., yn dynodi yr un peth. Y mae y plwyf yn mesur 9,127 o erwau o dir, a'r boblogaeth, yn ol deiliadeb 1871, yn 1468. Y mae Eglwys y plwyf, yr hon sydd wedi ei chysegru i Beuno Sant, yn ymddangos yn dra hynafol, a bellach mewn cyflwr lled adfeiliedig. Ceir yn y pentref gapeli heirdd perthynol i'r Methodistiaid Wesleyaidd a Chalfinaidd, ac yn y plwyf ceir capeli hefyd gan y Bedyddwyr a'r Annibynwyr. Adeiladwyd yma ysgoldy ardderchog gan y Bwrdd Ysgol yn 1872, lle y mae llawer o'r meddyliau ieuainc yn cael cyfeiriad da i brif-ffordd gwybodaeth gan Mr. D. Owen. Ceir gweddillion hen gaerfa Brydeinig yn nosbarth Llwchmynydd, heb fod yn nepell o'r Bettws; a rhyw dri chwarter i'r de o bentref Gwyddelwern ceir twmpath gwneuthuredig a elwir Tomen y Castell. Ar ffordd Rhuthyn, rhyw ddwy filldir o'r pentref, ceir lle a elwir Bryn Saith Marchog, am i Owain Glyndwr gymeryd yr Iarll Grey a'r saith marchog yn garcharorion. Yn agos i'r Bryn hwn yr oedd hen gapel Llanaelhaiarn, yr hwn a enwir yn y Myvyrian fel un o blwyfau Edeyrnion; ond mor wancus fu Gwyddelwern fel y llyncodd y plwyf hwn yn hollol, ac y mae fel gwartheg culion Pharaoh heb fod lawer tewach yn y diwedd, gan fod plwyf Llangar mewn modd eglwysig wedi llyncu Bodheulog a Chynwyd fechan, a Llawr-y-Bettws wedi llyncu Perseithydd.

Ond yn wladol mae Cynwyd o hyd yn mhlwyf Gwyddelwern, a hynod chwithig yw hyny, gan fod tafell o blwyf Corwen yn rhedeg drwy ei ganol. 'Pan y deuwn i'r lle hwn cawn gyfoeth o