Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bwriadu codi yr Eglwys mewn man arall yn y gymydogaeth, ond fod y gwaith yn d'od i lawr o hyd fel yr oedd yn cael ei adeiladu; ac iddynt o'r diwedd fyned i ymgynghori â rhyw ddoethwr, ac i hwnw eu hanog i fyned i hela carw, a pha le bynag y codent garw gwyn, mai dyna y fan i'r Eglwys sefyll. Y mae llên gwerin yr ardal yn dweyd fel hyn am yr amgylchiad dychymygol uchod:-

"Yn Llangar codwyd;
Yn Mron Guddio cuddiwyd;
Yn Moel Lladdfa lladdwyd;
Yn y Bedren pydrwyd."

Pa gysylltiad all fod rhwng codi carw gwyn, neu garw coch, â chodi Eglwys, nis gallwn ddyfalu; ond mae yn rhyfedd fod rhyw draddodiadau cyffelyb, fel y sylwyd o'r blaen yn nglŷn âg Eglwys Corwen, mewn cysylltiad â llawer o hen Eglwysi. Y mae Eglwys Llangar yn hynafol iawn, ond ni wneir defnydd o honi bellach ond yn unig ar yr achlysur o gladdu rhai o'r hen drigolion, gan fod Eglwys hardd wedi ei chodi yn Nghynwyd. Plwyf bychan iawn yw Llangar. Nid oes ynddo yn awr na chapel, na thafarn, gefail gof, melin, siop saer, na thy teiliwr, ni dybiwn. Lle prydferth ydyw; ac nid rhyfedd i Dafydd Ddu Eryri ddweyd am y llanerch deg pan oedd ar ymweliad â'r fro-

"Gwnewch o'r ddaear hawddgar hon
Baradwys i'ch ysbrydion."

Dywed y Parch. J. Evans, Garston, mewn traethawd buddugol o'r eiddo yn Nghynwyd amryw flynyddoedd yn ol:—"Yr oedd gwr mawr yn byw yn Gwerclas unwaith a arferai wneud gwledd flynyddol, a gwahodd ei gymydogion iddi. Yn mysg y gwahoddedigion yr oedd bardd o'r enw Mathew Owen, a breswyliai yn. Ty'nllwyn, Llangar. Yr oedd cafn, math o gwch, i'w gael y pryd hwnw, yn yr hwn yr arferid croesi y Dyfrdwy ar gyfer Gwerclas. Yr oedd y bardd fel yr ymddengys wedi 'yfed yn uchel' ar noson y wledd, ac er fod yr afon wedi llifo dros ei glanau, teimlai yn ddigon eofn i anturio i'r cwch, yn hytrach na chwmpasu a myned dros y bont. Ond mawr yr helynt fu arno. Prin y diangodd â'i fywyd yn ysglyfaeth; ac mor fuan ag y caf odd ei droed ar terra firma, daeth allan yn ddigon difyfyr yr englyn canlynol: