Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Da'i ddim i gafnu yn y cyfnos—i bant
Os bydd pont yn agos;
Af gefn dydd i gafn dyddos,
'Dal i gafn neb ar gefn nos."

Heb fod yn bell o fynwent Llangar ceir lle o'r enw Bedlam, lle, fel y gellir tybio oddiwrth yr enw, y ceid gwallgofdy unwaith; ond ni fuom lwyddianus i gael unrhyw hanes credadwy yn ei gylch.

Gadawodd Mrs. Lumley Salesbury, yn 1750, arian tuag at ddilladu dwy o hen wragedd y plwyf yn flynyddol; a gadawodd Hugh Roberts, Caergoed, yn 1806, £200, llog pa rai sydd i fyned bob blwyddyn at addysgu plant tlodion o'r plwyf hwn a Gwyddelwern. Dyma restr o Berigloriaid Llangar-R. ap H. Dormer, 1537; J. ap Rice, 1540; G. ap Llewellyn, 1546; O. ap John, 1586; T. Price, 1592; R. Davies, 1614; R. Owen, 1642; J. Griffiths, 1661; E. Vaughan, 1662, E. Ellis, 1664; H. Jones, 1668; J. Lloyd, 1689; E. Jones, 1691; E. Samuel, B. A., 1720; Ed. Samuel, B.A., 1748; W. Evans, 1762; E. Parry, 1784; T. Davies, 1789; R. Williams, 1796; P. L. Williams,[1] M.A., 1826; F. Griffiths, 1836; J. Dawson, 1838; W. Williams, 1858; T. J. Jones, B.A., 1872.

Ar ol cysodí y nodiadau ar Gynwyd yn mhlwyf Gwyddelwern, cafodd yr ysgrifenydd olwg ar ddau faen melin a godwyd o dir Celyngoed yn y flwyddyn 1807, y rhai brofant, wrth gwrs, fod melin wedi bod yn y lle, yn gyson â'r traddodiad yn yr ardal, yr hwn a ddywed hefyd fod yno amryw dai. Taid y Parch. John Meredith, Dolgellau, a ddarganfyddodd y meini, a chan yr ŵyr y maent yn bresenol. Symudwn yn mlaen bellach at

LLANDRILLO.

Saif y pentref hwn ryw 5 milldir o Gorwen, a chynwysa y plwyf y trefgorddau canlynol:—Dinam, Cilan, Faerdref, Garthiaen, Penant, a Syrior. Mae y rhan fwyaf o'r plwyf yn gorwedd ar wastad-dir, yr afonig Ceidiog a'r afon Dyfrdwy yn rhedeg trwy y dolydd; ond ceir bryniau uchel i'r cyfeiriad deheuol, yr

uchaf o ba rai yw Cadair Ferwyn, o ben pa fryn y gwelir rhan

  1. Mab iddo ef yw Watkin Williams, Ysw., A.S. Credwn mai yn Ficerdy Llangar y ganwyd y seneddwr galluog hwn.