Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

helaeth o'r wlad fel cylcharlunfa ardderchog. Ceir llawer o ffermdai yn y gymydogaeth sydd a'u henwau yn dangos eu bod o hynafiaeth mawr. Er engraifft, nodwn y rhai canlynol, ar awdurdod y Parch. T. Davies, Pentref. Cwm ty pellaf.—Rhydgethin yn yr hen amser. Heibio y ty hwn yr arweiniai y ffordd o'r Bala i Groesoswallt dros y mynyddoedd, a Rhydgethin oedd y lle i fyned trwy y nant. Cedgwm.—Ei ystyr yw Cauadgwm, neu cwm cul. Tyddyn y Famaeth.-Lle yr oedd etifedd Tyfod yn cael ei fagu, a'r famaeth yn cael y tyddyn yn ddiardreth am ei thrafferth. Cadwst.—Dwy fferm, un o bob tu i'r afon. Ei ystyr yw "brwydr yn y coed." Ar y fferm hon ceir cae o'r enw Clwt maen hogi, lle y minid yr arfau. Clochnant.—Dywed traddodiad mai yn y nant hon y cafwyd cloch Capel Rhug. Llysdyn.—Ceir traddodiad fod senedd yn cael ei chynal yma yn yr hen amser, ac y. mae agwedd hynafol ar y lle. (Ai gwneud cyfreithiau i drigolion Llandrillo yr oeddynt?) Branas—Coed y brain. Ganodl.—Ei ystyr yw "lle y llaeth gwyn." Ffynonydd y Brenin.—Dywedir mai yma y carcharwyd Harri VII. am fis gan Owain Gwynedd, ac oddiyma y trodd yn ol mewn gwarth. Pentrefelin.—Pen cantref tref Dinam. Mae drws yr hen felin eto yn ei hen ddull yn troi ar ei golyn, a barna Mr. Davies mai dyma y drws hynaf yn Edeynion, os nad yn sir Feirionydd. Hendwr.—Hen amddiffynfa enwog. Mae y gymydogaeth hon yn nodedig am ei hamddiffynfeydd, a cheir olion cromlechau rai, a charneddau mewn cyflawnder. "Bwlch y Maen Gwynedd, yn mynyddoedd y Berwyn, ydyw y lle a benodwyd gan Rhodri Fawr yn fan cyf- arfod Tywysogion Gwynedd a Phowys, er mwyn gwastadhau ymrafaelion a phenderfynu ymrysonau a allai gyfodi rhyngddynt; ac yn yr un gadwen o fynyddoedd, a thufewn i derfynau y plwyf hwn, y mae careg fawr wastad, darn o gromlech, yn ol pob tebyg, a elwir Bwrdd Arthur."—(Cymru, gan y Parch. O. Jones, tudal. 471, cyf. ii.). Yn y Cambrian Magazine am Ebrill, 1831, dyfynir o hen lyfr hanes etholiad un John Jones, yr aelod seneddol dros sir Feirionydd, yr hyn gymerodd le tua dechreu y 17eg canrif. Yn y writ cyfarfyddir â'r enwau hyn, yn mhlith eraill:—Owen Salesbury, Rug, Corwen; Rowland Vychan, Caergai; John Vychan, Cefnbodig; a Humphrey Hughes, Gwerclas. Wrth son am y