Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Er's oddeutu haner cant o flynyddoedd yn ol, aeth y gair ar led trwy gymydogaeth Llandrillo yn Edeyrnion fod Gwiber yn cartrefu mewn llwyn yn yr ardal hono, yn agos i le a elwir Plas y Faerdref. Derbynid y newydd ar y cyntaf gydag anmheuaeth, ond gan fod amryw o wyn a mân greaduriaid wedi meirw trwy, fel y credid, ei brathiadau gwenwynig; a bod llawer o bobl eirwir wedi gweled rhywbeth yn ehedeg o gwmpas yr ardal hono ag iddo gorph hir ac adenydd byrion, a thybient hefyd pan arafai ychydig eu bod yn canfod rhyw gèn symudliw hardd i gyd trosto, a bod iddo lygaid fel fflam dân yn ymsaethu trwyddynt; nid oedd neb yn y gymydogaeth yn ddigon rhrfygus i wadu y ffaith.

Cyn hir, yr oedd pwnc y Wiber wedi dyfod mor bwysig, fel mai dyna oedd byrdwn pob stori. Ymddiddenid am dani gyda sobrwydd yn yr efail, a siop y crydd; a phryd bynag y cyfarfyddai dau gymydog a'u gilydd, odid fawr nad y Wiber fyddai testyn yr ymddiddan. Dyna mewn gwirionedd oedd pwnc y dydd, a'r nos hefyd. Yr oedd yn amlwg hefyd fod yn rhaid gwneud rhywbeth heblaw siarad, canys er mor finiog ydyw y tafod, yr oedd yn amlwg nas gallasai ladd y Wiber. Penderfynwyd galw cynadledd o hynafgwyr a doethorion yr ardal. Wedi dwys ystyried y pwnc, daeth y cynghor rhyfel i'r penderfyniad o benodi diwrnod i wneud ymosodiad cyffredinol ar y gelyn. Ac wedi hir ddisgwyl daeth y diwrnod penodedig—diwrnod pwysig oedd hwn ar lawer ystyriaeth. Teimlai llawer mam y pryder dwysaf oherwydd y peryglon yr oedd yn rhaid i'w mab fyned trwyddynt cyn machlud haul; a llawer morwyn landeg a roddai aml i ochenaid ar ran ei chariad. Y diwrnod hwn yr oedd dewrder llanciau y fro i gael ei brofi, a'r gwroldeb hwn yr honai llawer eu bod yn feddianol arno i gael ei ddadblygu. Mewn gair yr oedd dedwyddwch yr ardal yn dybynu yn hollol ar weithrediadau y dydd hwn.

Yn fore iawn, cyn i'r haul ddyfod yn iawn allan o'i ystafell, dyma y fyddin yn cychwyn gan gerdded yn araf eto yn benderfynol at lan yr afon Dyfrdwy. Dyna y fan oedd wedi ei benodi fel maes y frwydr. Yr oedd yn y fyddin hon amrywiaeth mawr, rhai o bob oed a gradd; ac ambell hen batriarch pentyn mewn angen ffon, ond eto yn ddigon gwrol-calon y dydd hwn i fyned hebddi. Ond pa amrywiaeth bynag oedd yn y fyddin, yr oedd mwy yn yr arfau, y rhai yn benaf oeddynt bigffyrch, crymanau, &c., ac ambell hen frawd wedi dyfod o hyd i'r fwyall, gan yr ystyrid y cyfryw arf fel y mwyaf pwrpasol. Mor fuan ag r cyrhaeddodd y fyddin i lan y Dyfrdwy, gosodwyd baner goch i fynu, yn yr hon yr oedd picellau wedi eu gwlychu mewn gwenwyn. Amcan y faner goch oedd hudo y Wiber, oddiar ei chasineb at