Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bob peth coch, i ymguro yn erbyn ei chasbeth, ac felly anafu ei hun. Ond er disgwyl yn bryderus an oriau ni wnaeth y wiber ei hymddangosiad; a pheuderfynodd llywyddion galluog y gàd, mai y doethaf oedd i bawb fyned' ir fau, a phenu diwrnod arall i ail Enrg am frwydr.

Ond cyn i'r diwrnod hwnw ddyfod, fe ddigwyddodd i rywun ddyfod i'r gymrdogaeth oedd wedi gweled mwy o'r byd a'i greaduriaid na'r cyffredin; a thrwy rhyw ddamwain, cafodd olwg ar y Wiber, a hysbysodd y trigolion dychrynedig, er mawr ryddhad iddynt, nad oedd y Wiber yn ddim amgen na CHEILIOG PHEASANT.

Deallwyd wed'yn mai wedi dianc o Wynnstar yr oedd yr aderyn diniwaid, ac wedi crwydro gan belled â Llandrillo, lle na welwyd yr un erioed o'r blaen. A dyna'r hanes a'r helynt a fu gyda Gwiber Llandrillo.


Dechreuwyd pregethu egwyddorion Ymneillduaeth yn y gymydogaeth yn gynar yn y ganrif ddiweddaf. Yn y fl. 1776 ymwelwyd â'r lle gan genadon y Bedyddwyr, sef David Evans, y Dolau, ac un arall, a phregethasant mewn ty yn agos i'r pentref. Enillasant rai dysgyblion; ond yn gymaint ag na pharhawyd pregethu, syrthiodd yr achos i'r llawr. Cyn pen nemawr o amser daeth y Methodistiaid i'r ardal, a byddai Sion Moses, a Mr. Foulkes, o'r Bala, yn cynal oedfaon wrth gareg farch y Bell.

"Mi gym'ra' fy nhywys gan fugail yr Eglwys
Rhag ofn fod Sion Moses yn misio,"

ebai Huw Jones o Langwm. Wyr i'r hen gynghorwr Sion Moses oedd "Tegid," y bardd a'r offeiriad o Nanhyfer. Agorodd un Griffith Edwards, yr hwn a adeiladasai fwthyn un-nos ar fynydd Mynyllod, ei dy i'r cynghorwyr dd'od iddo i bregethu. Enynodd hyn ddigofaint rhai boneddigion yn yr ardal, a thynwyd yr hen gaban i lawr! Ond cafwyd ty gwell a mwy cyfleus i gynal moddion ar ol hyn. Bellach mae gan y Methodístiaid, yr Annibynwyr, a'r Wesleyaid, gapeli yn y pentref er's llawer o flynyddau.

Dyma restr o Berigloriaid a Ficeriaid y plwyf hwn:-Perigloriaid—Randolph Pool, 1537; E. Collys, 1538; H. Edwards, 1538; H. ap Howel, 1557; H. Edwards, 1589; J. Pryce, 1592; W. Kenrick, 1599; T. Banks, A.M., 1600; J. Griffiths, 1634; Dr. Clutterbuck, 1665; B. Carter, 1702; J. Upton, 1736; C. Bertic, 1761; E. Thurlow, 1789. Ficeriaid—J. Griffith, 1537; J. D.