Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

(the mountain of worship) ac eraill yn awgrymiadol o'r cyntaf, a Dolgadfa a Rhiwaedog yn llawn acenion rhyfel, a'u gruddiau yn goch gan waed, Yma ceir cylch ceryg a elwir Pabell Llywarch Hen, lle y tybid y trigai y bardd a'r rhyfelwr enwog. Llawer o anffodion a ddaethant i'w gyfarfod; ond yn ben ar yr oll collodd ei holl feibion—

"Wyf hon, wyf unig, wyf anelwig oer,
Gwedy gwely ceinmyg.
Wyf truan, wyf tridyblyg;
Wyf tridyblyg hen, wyf anwadal drud,
Wyf ehud, wyf anwar,
Y sawl a'n caroedd ni'm car."


Tua chan' mlynedd yn ol, yr oedd benyw o'r enw Gaynor Hughes yn byw yn Llandderfel, yr hon, fel Sarah Jacob, yn ddiweddarach, oedd yn proffesu byw heb fwyta. Mae Pennant yn son am dani, a darfu i Jonathan Hughes wneud cerdd iddi, lle y dywed—

"Mae bywyd dyn a'i angau,
Diamheu yw bob gradd a rhyw
Yn llaw yr Hollalluog,
Y gwir ardderchog Dduw.
Ffon daf a chareg denau
A laddai'r cawr Goliah i lawr.
Lladd Jonah oedd yn ei grombil
Nid allai'r morfil mawr;
Dwyn anadl hon o'i genau,
Ni ddichon angau a'i saothau syn;
Gwir ganiatad y nefol Dad
A'i ordinhad yw hyn."


Argraffwyd y gerdd yn 1778, ac yr oedd Gaynor yn orweddiog y pryd hwnw er's pedair blynedd. Cyrchai lluaws i'w gweled, gan ddwyn blodau a pherlysiau iddi, a dywedai hithau fod pren y bywyd yn harddach na holl flodau a rhosynau y llawr. Tybiai y werin ddiddichell ei bod wedi gweled pren y bywyd yn llythyrenol; ond tra thebyg mai cyfrwysdra yr hen ferch oedd y cyfan,

Gwaddoliad.—Gadawodd John Williams, drwy ei ewyllys dyddiedig Mawrth 9, 1846, i'w weinyddwyr, John Wm. Foulk, R. Wynne, a R. Thomas, weddill ei etifeddiaeth, yr hyn a ddaeth i £60, llog pa rai sydd i gael eu rhanu yn flynyddol rhwng hen bobl lesg, afiach, a thlawd y plwyf.

Rhoddir enwau perigloriaid y plwyf, ac adeg eu sefydliad, o