1537 i lawr:—John ap John, ap Thomas, ap Rice, 1537; J. Price, 1556; J. ap D. Lloyd, 1558; J. Price, 1573; R. Vaughan, 1583; W. Kenrick, 1592; M. Jones, 1640; A. Thelwall, A.M., 1641; J. Pierce, 1663; H. Parry, 1675; P. Hall, 1705; R. Edwards, 1720; T. Jones, 1740; P. Maurice, 1760; E. Hughes, 1760; S. Stoddard, B.A., 1763; D. Stoddard, M. A., 1788; T. Davies, 1796; E. Beans, 1825; J. Jones, A.M., 1828; J. Jones, 1840; W. Morgan, 1868.
Rhaid i ni groesi y mynydd bellach a myned i
LANFIHANGEL GLYN MYFYR.
Saif y pentref ryw saith milldir i'r gogledd-orllewin o Gorwen. Tir mynyddig, amlwg, yw y tir, yn cynwys 4,202 0 erwau, ac yn cymeryd i fewn y trefddegymau Cefnpost, Cysylog, Llysan, a Maesyrodyn, Poblogaeth y plwyf yn 1861 oedd 481. Y mae yr Eglwys yn hir a chul, ond wedi ei harddu yn fawr drwy adgyweiriad yn 1853. Ar y mur yn y pen gogleddol, ceir nodiad dyddorol am flwyddyn y lli, sef 1781, pan chwyddodd yr afon Alwen yn ddirfawr, ac yr oedd cenllif y mynydd yn ddinystriol. Daeth y llifeiriant i mewn i'r Eglwys, gan gario ymaith ran o'r gangell. Sylwa y Parch. D. R. Thomas fod yr arferiad o hel "Blawd y gloch" yn cael ei ddal i fyny gan y clochydd fel ei dâl am alw y plwyfolion i'r Eglwys, ae hefyd yr arferiad gan y plant o hel "Bwyd cenad y meirw," ar nos gwyl yr holl saint. Mae yr arferiad diweddaf hwn yn ffynu o hyd mewn rhanau eraill o Edeymion; gwelais rai o blant Llansantffraid wrth y gorchwyl yn 1876. Elent oddi amgylch y ffermdai gan haner ganu with y drws—
"Dydd da i chwi heddyw,
Bwyd cenad y meirw,"
Ac mewn amryw fanau estynid iddynt deisen fechan wedi ei
gwneud at y pwrpas. Brodor o Lanfihangel oedd y Dr. P.
Maurice, o Oxford, awdwr enwog, ac amryw enwogion eraill am
y rhai y cawn son mewn penod arall. Dyma enwau y boneddigion a fuont yn gweinyddu fel perigloriaid yn y plwyf hwn:-
J- Vaughan, 1537; J. Blacken, 1537; L ap David, 1551;
J. Vaughan, 1573; H. Owen, 1574; T. Powell, A. M., 1602;
H. Owen, 1606; J. Price, A.M., 1618; R. Foulkes, 169;