Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yna atebodd Dafydd ab Harri Wyn ef yn ebrwydd yn y wedd a ganlyn—

"Caerwys yw hon, cares hardd,
Cyrch hen heirddion feirddion fyrdd;
Cymer I'w nawdd Cymry nordd,
Cor liên tywys cynwya cordd."

Synai Sion Phylip yn aruthrol iddo gael ateb mor fuan ar orchest bencerddaidd. A phan brofwyd ef dranoeth o flaen y beirdd, gwelwyd ei fod yn medru yr holl fesurau cerdd a'u perthynasau, a'i fod wedi canu arnynt yn fwy gorchestol na neb a gawsant raddau pencerddiaid yn yr Eisteddfod.—(Gwel Geir. Aberdar, Geir. Lerpwl, &c., dyfynedig o lyfr Ieuan Brydydd Hir).

DAFYDD WILLIAM PYRS.—Bardd o Gynwyd. Yr oedd yn byw tua 1660. Bu ef a Matthew Owain o Langar yn gyfranog mewn cyfansoddi rhai caneuon, un o ba rai a geir yn Blodeugerdd Cymru.


ELIS AB ELIS.—Bardd ac offeiriad yn trigianu yn Llandrillo rhwng 1580 a 1620. Y mae amryw gywyddau ac englynion o'i waith ar gael.


EDWARD EVANS (Iolo Gwyddelwern) a anwyd yn y Tyddyn. Bychan, yn mhlwyf Gwyddelwern, yn 1786. Yr oedd yn nai fab chwaer i Thomas Edwards (Twm o'r Nant), a diau ei fod yn tebygu cryn lawer mewn gallu awenyddol i'r hen athrylith hwnw. Ni feddai ar feiddgarwch a gwylltineb awen Twm, ac ni anurddid ei waith gan gynifer o wallau chwaith. Eto, er yn nghanol rhwystrau, meddienid ef â rhyw feiddgarwch tawel i gystadlu â chewri yr oes ar brif bynciau yr amser, fel y dengys y dyfyniad canlynol o restr cynwysiad ei lyfr, yr hwn sydd yn meddiant Rhuddfryn mewn cyflwr destlus:—Awdlau ar Roddiad y Ddeddf ar Sinai; Gwledd Belsassar; Elusengarwch; Abraham yn Offrymu Isaac; Dewrder Caradog; Marwnad Dafydd Ddu o Eryri; Marwnad Dafydd Penant; Gwaeddolef uwchben Brenin— llys Angeu; yn nghyda lluaws o gywyddau, cerddi, a charolau. Brawd iddo ef oedd Evan Evans, sylfaenydd Cymdeithas y Cymreigyddion yn Lerpwl. (Gwel llyfr R. Davies. Nantglyn). Wele engraifft o'i waith allan o'r awdl ar "Roddiad y Ddeddf"—