Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Gwedi trimis o gyd-dramwy—Duw a ddaeth,
Dydd oedd ddychrynadwy;
Efo nodwaith ofnadwy
Pryd el farn—pa raid ei fwy?

"I roddi el arwyddair—i Israel
Addasrwydd ei gynghrair,
A dewis bywyd diwair,
Nod eang yw mewn deng air.

"Sinai oedd dan greision wawr—fflam amwyth
Yn fflamau echrysfawr;
Amwyll derfysg, mellt dirfawr
Yn troi'n mwg taranau mawr."

Bu farw yn 1853, a chladdwyd ef yn mynwent Llanfwrog, Rhuthyn, gyda'r englyn canlynol o'i waith ei hun yn gerfiedig ar gareg ei fedd:—

"Llom walan lle mae Iolo—Gwyddelwern
Ga'dd alwad i huno,
Dan wisg llygredd, dynfedd do,
Hyd esgyn i'w adwisgo."

DAVID HUGHES (Eos Ial) oedd fardd yn byw yn Morfydd, Llansantffraid. Dringodd drwy gryn anhawsderau i safle led uchel fel cyfansoddwr. Cyfansoddodd amryw fân lyfrau, a byddai yn arfer a'u hargraffu ei hunan, a myned yma a thraw i'w gwerthu. Yr oedd ganddo gryn allu i oganu drwg-arferion, a mynych y defnyddiai ei ffrewyll at ofergoeledd a ffolineb yr oes. Claddwyd ef yn mynwent y Bedyddwyr, Llansantffraid, tua 1860.


GRUFFYDD AB CYNAN, er ei eni yn yr Iwerddon, (yr hyn a gymerodd le tua dechreu yr unfed ganrif ar ddeg), sydd, o herwydd ei gysylltiad uniongyrchol mewn blynyddau dyfodol â'r rhanbarth hwn, yn haeddu cofnodiad yma. Yr oedd yn enwog fel rhyfelwr a thywysog yn Ngwynedd, a'i fri yn ddolur llygaid i'w elynion. Cyfeiriwyd mewn rhan arall o'r llyfr hwn at ei fradychiad anfad gan Meirion Goch yn Rug, ger Corwen, drwy yr hyn y trosglwyddwyd ef i garchar Caerlleon. Darfu iddo ddwywaith lwyddo i ymlid byddinoedd cedyrn Gwilym Goch (William Rufus) o Gymru i chwilio am nodded yn eu gwlad eu hunain. Yr oedd yn nodedig hefyd am ei nawdd i feirdd a llenorion. Yr oedd yn ddigon gwladgarol i wneud ymdrech egniol i adfywio a gloywi yr awen Gymreig, ac yn ddigon call i ddwyn gwyr enwog or Iwerddon i'w gynorthwyo yn y gorchwyl. Nid