Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd felly mor ddall yn ei wladgarwch nes ei atal i sylwi ar ragoriaethau gwledydd eraill. Yr oedd hyny yn rhinwedd canmoladwy ynddo. Ei arwyddair, debygid, oedd, "Croesaw i'r goleuni o ba gyfeiriad bynag y daw." "Cymdeithion gwahanredol a ddywedynt ei fod yn wr cymedrol ei faint, â gwallt melyn amo, ymenydd gwresog, a wyneb crwn da ei liw; llygaid mawr gweddus, ac aeliau teg, barf hardd, mwnwgl (gwddf) crwn, a chnawd gwyn, ac aelodau grymus, a bysedd hirion, ysgeiriau union, a thraed teg; cywraint oedd, a hyawdl mewn amrafaelion ieithoedd; boneddig oedd yntau, a thrugarog wrth ei giwdawd (ei genedl), creulon wrth ei elynion, a gwychaf gwr mewn brwydr."—Gwel ei "Fuchedd."

OWEN FYCHAN, yr hwn a adnabyddir yn gyffredin wrth yr enw Owain Glyndwr, oedd fab i Gruffydd Fychan ap Gruffydd o'r Rhuddallt, ap Madog Fychan ap Gruffydd ap Madog ap Gruffydd Maelawr, ap Meredydd ap Bleddyn ap Cynfyn. Ei fam oedd Helen, merch Thomas ap Llywellyn, yr hwn a briododd Elinor Goch. Dengys Gwallter Mechain, drwy gynllun achyddol cywrain, ei fod yn disgyn trwy ei dad o dylwyth tywysogol Powys:—

"Bleddyn ap Cynfyn bob cwys,
Ei hun br'oedd hen Bowys;"

ac o du ei fam o Rhys ap Tewdwr, a Gruffydd ap Cynan, dan sefydlydd llwythau brenhinol Deheubarth a Gwynedd. Ganwyd Owain Glyndwr yn y flwyddyn 1364, naill ai yn Nglyndyfrdwy, yn mhlwyf Corwen, neu ynte yn Sycharth, yn mhlwyf Llansilin. Aeth saith dinas i ymryson am yr anrhydedd o fod yn fan genedigaeth Homer, ac felly dadleuir rhwng y ddau le hyn fel man genedigaeth yr arwr Cymreig. Yn mhen blynyddau lawer ar ol hyny, taenwyd chwedlau rhyfedd am ddygwyddiadau synfawr wedi cymeryd lle ar enedigaeth Owain. Gafaelodd y bardd mileneidiog Shakespeare yn y traddodiadan hyn, ac yn y ddrama ardderchog Henry IV. dywed, gan roddi y geiriau yn ngenau "Glendower:"—

"At my nativity
The front of heaven was full of fiery shapes
Of burning cressets, and at my birth
The frame and huge foundations of the earth
Shak'd like a coward: