Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei ardderchogrwydd a'i urddas. Dyma ddarluniad o hono gan y bardd a enwyd:-

"Tai Napl"[1] ar folt deunawplas,
Tai nawplad fold deunawplas,
Tŷ pren glân mewn top bryn glas.
Ar bedwar piler eres
Ei lys ef i nef yn nes.
Ar ben pob piler pren praff,
Llofft ar dalgrofft adeilgraff,
Ar pedair llofft, o hoffter,
Ynghyd gydgwplws lle cwsg cler.
Aeth y pedair disgleirlofft,
Nyth lwyth teg iawn, yn wyth lofft.
To teils ar bob tŷ talwg,[2]
A simnai lle magai mwg.
Naw neuadd gyfladd gyflun,
A naw wardrob ar bob un.
Siopau glân, gwlys gynnwys gain,
Siop[3] lawndeg fel Siop Lundain.
Croes eglwys gylchlwys galchliw,
Capelau a gwydrau gwiw.
Pob tu'n llawn, pob ty'n y llys,
Perllan, gwinllan, gaer wenllys.
Parc cwning[4] meistr pôr cenedl,
Erydr a meirch hydr mawr chwedl.
Garllaw'r llys, gorlliwio'r llall,
Y pawr ceirw mewn parc arall.
Dolydd glân gwyran[5] a gwair,
Ydau mewn caeau cywair.[6]
Melin deg ar ddifreg ddŵr,
A'i golomendy gloyw maendwr.
Pysgodlyn, cudduglyn cau,
A fo rhaid i fwrw rhwydau;"

(Gorchestion Beirdd Cymru, tudal. 115). Dywed Cynddelw

mewn nodiad ar y Cywydd hwn: "Mae y 'Bryn glas,' ar dop yr hwn y safai y ty pren glan, yn cael ei adnabod hyd heddyw. Mae olion y pysgodlynoedd i'w canfod, y parc, a'r felin, ond eu bod yn rholdy a phandy erbyn hyn; ac y mae y ty cynswllt yn cael ei alw Pentre'r cwn o hyd eto. Ond gan mai ty pren ydoedd,

mae pob olion o'r adeilad wedi llwyr ddiflanu er's oesoedd

  1. Napl-(Naples).
  2. Talwg-Tal-gwe, uchelfalch. Ty uchel a tho ceryg yn gyferbyniol i'r bythod isel a tho gwellt.
  3. Ai nid "siap (shape) landeg," ddylai fod yma?
  4. Cwning-Cwning-gaer, (a rabbit warren)
  5. Gwyran-Porfa fras.
  6. Rhaid fod lle ardderchog iawn yn Sycharth y pryd yr oedd Owain yn ei rwysg a'i gyfoeth. Yr oedd ei lys, ei eglwys, a'i diroedd o gylch y llys, mewn trefn odidog.