Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bellach." Mae traddodiad yn ardal Glyndyfrdwy hefyd fod hen balas Owain yno yn gladdedig yn "Pwllincyn"—Pwll llynclyn (?), yn agos i'r Mound, sef y domen isaf o'r tair sydd rhwng Corwen a Glyndyfrdwy. Ceir yr enwau Parc, a Llidiart y Parc, yn yr ardal o hyd, ond nid oes garw cyflymdroed i'w weled bellach, os buont yma fel yn Mharc Sycharth—"Pawr ceirw mewn parc arall." Tybiwn mai nid anmhriodol yn y fan hon fydd dyfynu y llinellau canlynol o waith y bardd medrus Iorwerth Goes Hir, y rhai oeddynt fuddugol mewn cyfarfod llenyddol a gynelid yn Llansantffraid:—

"Ar lanerch dlos lle heibio rhed
Y Dyfrdwy ar el hynt,
Fe saif hen olion ar ei glan,
Gweddillion amser gynt:
Hen lys traddodiad noda'r fan
Ynglyn a'r enwog wr,
Gan ddweyd mai dyma garchar gynt
Hon arglwydd dewr Glyndwr.

"Hen lafar benill ddaeth i lawr
Ar dafod llawer oes,
Gan adrodd hen ddygwyddiad fu,
I ni fel hyn y rhoes:
Tri chant neu fwy o flwyddi'n ol
Aeth Dyfrdwy fawr ei naid,"
Yn un o'i gorlifladau gynt,
'Ag Eglwys Llansantifraid."

"Gerllaw y carchar safai hon,
Lle 'nawr mae gwely'r lli;
A chwery y brithylliaid yn
Lle bedd ein tadau ni;
Tyst golofn ydyw ef o'r fan,
Hwnt, hwnt, i ddydd fy nhaid,
Y safai yn yr amser gynt
Hen dreflan Llansantffraid.

"O fewn dy furiau, garchar hen,
Bu'n gaethion wyr o fri;
Traddodiad wel yr Arglwydd Grey
O fewn dy furiau di;
A llawer tost bendefig balch,
A llawer grymus wr,
Arweiniwyd i'ch gynteddau gan
Alluog law Glyndwr.

"Os aeth ei gapel gyda'r lli,
Os aeth el lys yn llyn,
A'i her domenydd gwylio, fel
Galarwyr yn y glyn:
Goroesodd yr hen garchar llwyd
Gadernid llawer tŵr,
A dwg i ni ryw gofion hoff
O arwr mawr, Glyndwr."