Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond er mor gysurus y gallasai Owain dreulio ei amser yn ei balasau, ac yn mwynhau ei etifeddiaethau, credai ef fod dyledswydd yn galw arno ddadweinio y cleddyf, a dyfod allan yn rymus dros anrhydedd ei genedl. Yr oedd yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad y pryd hwnw "a'r afon Gaer hyd afon Gwy," a phob ymdrech i'w lladd wedi profi yn aneffeithiol. Yr achlysur i dynn egnion milwrol Owain allan oedd, cweryl a gyfododd rhyngddo a Reinallt, Arglwydd Grey o Rhuthyn, yn nghylch llain o dir o'r enw Croesau, rhwng Glyndyfrdwy a Rhuthyn. Yr oedd Owain wedi enill cyfraith ar y mater yn amser Richard II., ac felly cadwai Reinallt lid byw yn ei fynwes tuag ato. Pan benderfynodd Henry IV. gychwyn allan mewn cadgyrchiad yn erbyn Ysgotland, yn y flwyddyn 1400, anfonodd drwy Grey wys, a gwahoddodd i Glyndwr ymuno gyda barwniaid eraill yn yr osgordd. Cadwodd y bradwr mewn modd bwriadol y wys hon am cyhyd o amser fel nad oedd yn ddichonadwy i Owain ufuddhau. Y canlyniad fu i'r anufudd, fel y tybid ef, gael ei gyhoeddi yn fradwr, a'i feddianau yn fforfed! Rhoddodd hyn gyfleusdra i'r digofaint oedd wedi hir groni yn mynwes ein gwron at y brenin i dori allan yn rhyferthwy. Cynullodd nifer o Gymry dewrion ac aethant yn fintai er mwyn adenill y tiroedd a anrheithasid. Fel hyn torodd allan yn raddol wrthryfel cyhoeddus, a lluoedd o bob parth a ddeuent allan yn ewyllysgar i wisgo arfogaeth, ac i ymladd dan luman "Tywysog Cymru," fel yr ymhyfrydent alw Glyndwr.

Tybir mai ar Gaer Drewyn, yn agos i Gorwen, lle y buasai gwersyllfa Owain Gwynedd yn flaenorol, yr oedd gwersyllfa Glyndwr y pryd hwn. Ond yn fuan yr oedd ganddo amryw wersyllfaoedd eraill mewn gwahanol barthau o Gymru, a chymerodd ran mewn brwydrau lawer na chaniatai gofod i ni eu holrhain yn y cylch hwn. Llechai weithiau yn nghalon bryniau Eryri, bryd arall cawn ef ar goryn balch Plumlumon, drachefn ar wastadedd y Faelor Seisnig, ac wedi hyny yn nghanol Ceredigion. Ymosododd yn ddiarbed ar lawer o gestyll a geid yn Nghymru perthynol i'r Saeson, a llwyddodd i ddinystro rhai, a gosod gwarchodwyr yn y lleill.

Dywedir fod pob peth yn gyfreithlon mewn rhyfel, ac ymddengys fod gan lawer o'r rhai sydd yn selog dros y cleddyf