Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gydwybodau digon ystwyth i gredu unrhyw beth. gellir cyfiawnhau llawer o ymddygiadau Glyndwr yn ei gadgyrchoedd, ond mae yn amlwg ddigon nad oedd y Saeson fymryn gwell, beth bynag. Yr oedd cryn lawer o gyfrwysdra yn nodweddu gweithrediadau ein gwron, ac nid yw yn annhebygol nad oedd ef ei hun, er mwyn llwyddiant ei arfau, yn ceisio dylanwadu ar ei filwyr, ac ar y byddinoedd estronol, fod yn gweithredu dan ddylanwad swyngyfaredd, a'i fod mewn cynghrair gyda deiliaid y byd ysbrydol. Fel y dywed Bardd Avon—

"Where is he living?—clipp'd in with the sea
That chides the banks of England, Scotland, Wales,
Which calls me pupil, or hath read to me;
And bring him out that is but woman's son
Can trace me in the tedious ways of art,
And hold me pace in deep experiments;
I can call spirits from the vasty deep."

Ac y mae yn bur sicr fod llawer nid yn unig yn credu y gallai "alw ysbrydion o'r dyfnder," ond hefyd y deuent i fyny pan y galwai arnynt. Bu ymddangosiad y seren wib yn 1402 yn llawer o fantais iddo. Nid oedd Whitaker's Almanac yn d'od allan y pryd hwnw i oleuo trigolion y wlad, nac hyd yn nod y Cyfaill gan Sion Robert Lewis; ac yr oedd y werin hygoelus yn hawdd iawn eu perswadio i gredu unrhyw beth. Bu Iolo Goch yn ddiwyd i wneud y goren o'r amgylchiad—

"Am eu lliw y mae llawer
O son am anian y ser,
Er eu sud eres ydynt
O radd nef arwyddion y'nt.

"Ond y seren eleni
Y sydd o newydd i ni,
Gem yn arwain in' gymod
Can Dduw glan, gwn iddi glod:
Uchel y mae uwchlaw Mon,
Yn ngolwg yr angylion;
Duw a ddyg fo'n diddigia
Gwynedd i gael diwedd da."

Ymddengys fod Owain yn gallu bod yn benderfynol iawn pan y tybiai fod angen am hyny, ac hefyd yn gallu cadw ei deimlad milwrol dan gudd weithiau, gan ymheulo yn mwyniant lletygarwch a charedigrwydd. Dodwn yma ddau draddodiad am dano