iddo i gyd, i ddala Owain, yr hwn a glywsai fod wedi dyfod i'r rhanau byny o Gymru; a'i fod hefyd dan dwng ei hunan i roddi gwobrwyon anrhydeddus i'w wŷr, os hwy a ddelaint âg Owain Glyndwr yno, y naill neu'n fyw neu'n farw. 'Da iawn,' ebai Owain, 'y byddai diogelu'r gwr hwnw, a bod gallu yn rhywrai i wneuthur hyny.' Gwedi bod yn nghastell Syr Lawrens bedwar diwrnod a thair noswaith, yn fawr ei barch a'i roeso, meddylws Owain mai call fyddai myned i ffordd; a chan roi ei law yn llaw Syr Lawrens, dywedyd wrtho fel hyn:—'Y mae Owain Glyndwr yn gâr cywir, heb na digofaint, na brad, na thwyll yn ei galon, yn rhoi llaw yn llaw Syr Lawrens Berclos, ac yn diolch iddo am y groeso, a'r caredigrwydd, a'r syberwyd boneddigaidd gafodd ef a'i gyfaill, yn rhith gwas iddo, yn ei gastell; a chan addaw ar law yn llaw, a llaw ar galon, na ddaw byth ar feddwl iddo ddial. yr hyn a feddyliodd Syr Lawrens Berclos iddo; ac nas goddefai i hyny fyw ar ei gof, nac ar wybod iddo, hyd y bai yn ei allu, yn meddwl ac ar gof nebun o'i geraint a'i gymhlaid:' ac ar hyny, Owain a'i was a gyrchasant eu ffordd, a myned ymaith." (Hanes y Brytaniaid a'r Cymry, tudal. 285, 286).
Bu Owain farw Medi 20, 1415.—
"Mil a phedwar cant nid mwy—cof ydyw
Cyfodiad Glyndyfrdwy;
A phymtheg praff ei safwy,
Bu Owain hen byw yn hwy."
Pa le y terfynodd ei einioes, a pha le oedd y llecyn gafodd dder byn ei ran farwol, sydd dra anhysbys. Rhai a ddywedant mai yn sir Henffordd, yn nhy un o'i ferched, y tynodd yr anadl olaf. Eraill a ddywedant mai yn Nglyndyfrdwy y gosodwyd ei gorff i orwedd yn y pridd. Terfynwn ein cofnodion am dano yn ngeir— iau Hanes y Brytaniaid a'r Cymry, Dos. IV., tudal. 298:—
"Ymddengys i ni, ar y cyfan, nad oes neb, yn ystod holl hanes ein cenedl, yn deilwng o edmygedd uwch nag Owain Glyndwr. Efe ydyw'r unig wron Cymreig a ymddyrchafodd yn ysbaid ychydig fisoedd i radd tywysog pendefigol, ac a adferodd annibyniaeth a hen derfynau ei wlad. Er bod ei bobl wedi eu darostwng er's mwy na chan' mlynedd gan en treiswyr, ac felly'n llwyr anghyfaddas i enill llwyddiant milwrol, eto mynych yr arweiniodd efe hwy dros y terfynau, ac y gorfododd i luoedd mawrion encilio o'i flaen, er iddynt gael eu cefnogi gan bresen-