Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oldeb eu brenin coronog. Tra yr oedd yn amddifad o adnoddau ond a grewyd ganddo ei hun, er hyny enillodd oddiar ei elynion, neu cafodd gan ei gynghreirwyr, drysorau, arfau, milwyr, ac amddiffynfeydd, trwy gyfrwng y rhai y llwyr drechodd gyfrwysder a galluoedd yn nod Henry IV. ei hunan, a bu gyfartal i athrylith filwrol Henry o Fynwy; a hèriodd holl allu Lloegr yn ddiarswyd. "Y mae ei glod fel swyngyfareddwr, a'r gred mai efe oedd gwrthddrych yr hen ddaroganau Cymreig, yn ddigon i brofi y dylanwad hynod a gynyrchai ei athrylith goethedig a nerthol dros feddwl ei gydoeswyr, yn nghydag effaith rymus ei lwyddiant tra rhyfeddol. A mwy fyth, er ei glod, tynerid ei wroldeb gan ddoethineb dyngarol; cedwid ei uchelgais heb ei lychwino gan hunanoldeb; ac nis gellir profi ddarfod iddo erioed, yn yr un o'i ymdrechiadau gwladol, gynyg aberthu annibyniaeth ei wlad er mwyn dyrchafu ei hun a'i deulu, yr hyn nis gellir ei ddywedyd ond am ychydig iawn o dywysogion a rhyfelwyr. Am hyny, naturiol ydyw i bob Cymro diledryw ymfalchio mewn arwr o'i genedl ei hun y methodd gorchfygwyr y Saxoniaid, yr Ysgotiaid, y Ffrancod, a llawer cenedl arall, ei ddarostwng dan iau eu gormes; a'r hwn, mewn gwirionedd, oedd y Cymro olaf, o waed coch cyfan, a fu'n dywysog Cymru oll."

OWAIN GWYNEDD.—I. Y tywysog cadarn, oedd fab i Gruffydd ap Cynan, am yr hwn y soniwyd yn barod yn ei gysylltiad âg Edeyrnion. Ar farwolaeth ei dad, yn 1137, yn ol defod gwlad, rhanwyd tywysogaeth Cymru, a rhan Owain ydoedd gwlad Gwynedd. Ei weithred gyntaf fel tywysog ydoedd arwain rhyfelawd i'r Deheubarth, yr hwn a fu yn dra llwyddianus. Dinystrodd Gestyll Ystrad Meurig, a Phont Stephan, a llosgodd Gaerfyrddin i'r llawr. Yn 1144 darostyngodd gastell cadarn y Wyddgrug. Cyfeiriwyd mewn tudalen blaenorol at ei ymosodiad llwyddianus yn erbyn byddin Harri II., yn 1165. Yna cymerodd Owain Gastell Basingwerk, yn sir Fflint, gan ei lwyr ddinystrio; a buan ar ol hyny cyfarfu Cestyll Prestatyn a Rhuddlan â'r un dynged. Terfynodd ei oes fywiog yn 1169, a chladdwyd ef yn Mynachlog Bangor.—II. Ceir marwnad i un Owain Gwynedd yn y Gorchestion o waith Tudur Owain. Pwy oedd yr Owain Gwynedd hwnw sydd anhysbys, gan nas gall fod y tywysog na'r bardd adnabyddus. Fodd bynag, yr oedd yn byw yn Gwyddelwern, ac yno y claddwyd ef.