"Trist yw'n iaith trosto'n ei ol,
Gan ei ddwyn Owain Gwynedd,
Y fo'n Ial a fu'n y wedd
Gwyddelwern, y gwaeddolef,
Gwaed a wyl beirdd gwedi ef."
OWAIN BROGYNTYN.—Pendefig urddasol tua diwedd y 12fed canrif. Mab ydoedd i Madog ap Meredydd ap Bleddyn, tywysog Powys Fadog; a'i fam ydoedd ferch Y Maer Du o Rug, yn Edeymion. Rhoddes ei dad iddo arglwyddiaeth Edeyrnion, a'r cwmwd gerllaw a elwir Dinmael. Yr oedd ei balas yn Mrogyntyn (Porkington), gerllaw Croesoswallt, ac y mae olion ei aneddle i'w weled hyd y dydd hwn. Gwelir el achau yn ngwaith Lewis Dwn.
THOMAS JONES.—I. Ganwyd Thomas Jones, yr Almanaciwr
enwog, yn Tre'rddol, ger Corwen, yn y flwyddyn 1647. Dywedir
iddo fyned i Lundain fel teiliwr pan yn ddeunaw oed. Ond cyn
hir, gadawodd y gelfyddyd hòno, gan droi i fasnachu mewn
llyfrau, &c. Arferai deithio drwy yr holl wlad, gan gadw ffeiriau
Caerlleon, Amwythig, Gwrecsam, a Bristol. Sefydlodd argraffwasg yn yr Amwythig tua'r flwyddyn 1696, er mwyn cyhoeddi
gweithiau Cymraeg; a gwnaeth lawer o ddaioni ar ran ei wlad
a'i genedl. Cyhoeddai Almanac Cymraeg yn rheolaidd am lawer
iawn o amser, ac yr oedd yr Almanaciau hyn yn cynwys llawer
iawn o wybodaeth fuddiol na cheid y pryd hwnw yn un man
arall. Mae yn nodedig fod cynifer o wŷr o'r cylchoedd hyn wedi
bod gyda'r gorchwyl o gyhoeddi Almanaciau: mae yn anrhydedd
i Edeyrnion mai hi a fagodd y cyntaf. Wedi ei amser ef bu
John P'yrs o Bryneglwys yn cario y gwaith yn mlaen, ac wedi
hyny Cain Jones o Glynceiriog. Rhoddwn grynodeb o'r llyfrau
a gyfansoddwyd, a gyfieithwyd, neu a olygwyd gan Thomas Jones
(1) Y Gymraeg yn ei Dysgleirdeb, neu Helaeth Eirlyfr Cym—
raeg a Saesonaeg. Terfyna y rhagymadrodd fel hyn:"O'm ty
wrth lun y Cawrfil, yn Maes Isa'r Fawnog, Caerlydd, Medi 12,
1687," yr hyn o'i gyfieithu yw, "From my house near the sign
of the Elephant in the Lower Moorfields, London," &c. Aeth
hwn drwy amrywiol argraffiadau. (2) Unffurfiad. (3) Y gwir
er gwaethed yw. Rhydd hwn hanes Brad y Powdwr Gwn, a'r
hyn a elwir yn Frad y Presbyteriaid. (4) Llyfr Gweddi Cyffredin,
cyfieithiad. (5) Carolau a Dyriau. (6) Artemidorus—Deongliad