Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan afiechyd. Bu hefyd yn dra diwyd yn casglu hen lyfrau prinion, ac yr oedd ganddo ystorfa helaeth a gwerthfawr o'r cyfryw; ond gan ddyfod o hono yn analluog i ddilyn ei broffeswriaeth, a'i fod yn meddu ysbryd rhy annibynol i hysbysu ei gyfeillion o'i gyfyngder, efe a'i gwerthodd hwynt a rhan fawr o'i lyfrgell er mwyn cael arian at fyw. O'r diwedd hysbyswyd ei galedi i lywodraethwyr Cymdeithas Frenhinol y Cerddorion, y rhai yn ddioedi a roddasant iddo y swm o £50 yn y flwyddyn, yn ddiarwybod iddo ei hun hyd oni dderbyniodd yr arian. Pa fodd bynag, ni chafodd ond byr amser i'w mwynhau, a bu farw yn Marylebone, Ebrill 18, 1824, yn 72 oed. Gadawodd o'i ôl luaws o lyfrau prinion, a thwysged o gerddoriaeth, y rhai a arwerthwyd yn gyhoeddus yn Chwefror, 1825, a chafwyd am danynt £500, ac yr oedd yntau ei hun wedi gwerthu gwerth £300 cyn hyny. Y mae y llyfrau a gyhoeddodd yn ddigonol dystiolaeth i'w allu a'i athrylith. Ffrwyth deugain mlynedd o lafur ac ymchwiliad ydynt, a chludir ei enw ganddynt yn anrhydeddus i'r dyfodiant—Geiriadur Lerpwl, tudal. 584).

EDWARD JONES (Britwn Ddu) oedd fardd lled dda yn byw yn Bodorlas, ger Llansantffraid, Bu farw yn 1876, yn 85 ml. oed. Cystadleuodd gryn lawer yn anterth ei ddyddiau, a bu yn fuddugol amryw weithiau. Enillodd y wobr flaenaf ar englynion i "Longddrylliad" yn Eisteddfod Corwen, Gwyl Dewi, 1827, pryd y rhanwyd yr ail wobr rhwng Eos Ial a R. Thomas, Llanuwchllyn, sef Ap Vychan, Bala, yn awr. Ceir yr englynion (24 mewn nifer) yn y Gwyliedydd am Awst, 1827.


MEIRION GOCH.—Pendefig yn byw yn Edeyrnion yn yr unfed ganrif ar ddeg. Mae tafod hanesyddiaeth yn ddystaw am ei rinweddau, ond gorwedd ei enw dan domenydd o warth o herwydd iddo fod yn ddigon anfad i fradychu Gruffydd ap Cynan i ddwylaw y Saeson yn 1079.


OWEN JONES (Owain Myfyr).—Ganwyd y gwladgarwr haelfrydig a'r hynafiaethwr twymgalon hwn mewn ffermdy o'r enw Tyddyn Tudur, yn mhlwyf Llanfihangel Glyn Myfyr, sir Ddinbych, yn 1741. Mab ieuengaf i deulu parchus ydoedd yn y lle hwnw, am y rhai ni wyddys ond ychydig heblaw eu bod yn hanu