Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o deulu hynafol. Pan yn dra ieuanc, danfonwyd ef i Lundain, a rhwymwyd ef yno yn egwyddorwas gyda Meistri Kidney a Nutt, Furriers, yn Thames Street. Yn mhen ysbaid cafodd gyfran yn y fasnach, a thrachefn olynodd hwynt; a pharhaodd i ddwyn y fasnach yn mlaen hyd ei farwolaeth. Ond er ei ofalon a'i lwyddiant masnachol, mynodd hamdden i dosturio wrth agwedd farwaidd llenyddiaeth ei wlad, i resynu dros ddifrawder ei gwŷr mawr o'i phlaid, ac i wneud ei oreu er dihuno doniau cysglyd ei gydwladwyr, ac arbed rhag difancoll ysgrifeniadau gwerthfawr ein hynafiaid oedd yn cael eu gorchuddio gan lwch a'u hysu gan bryfaid. Tynodd ei gynlluniau er mwyn dwyn ei amcanion gwiwglodus oddiamgylch, ac nid arbedodd nac arian nac amser er eu cyrhaedd. Yn 1772 bu yn offeryn i sefydlu Cymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain, ac nid yn unig bu hon o fawr les er enyn cenedlgarwch yn mhlith Cymry y Brifddinas, ond bu o wasanaeth mawr hefyd trwy benodi a chynal Eisteddfodau mewn amrywiol barthau o Gymru. Ymroddodd yn ieuanc i gasglu ac adysgrifio hen ysgriflyfrau Cymreig, a pharhaodd yn ddiwyd wrth y gwaith hwn hyd ddiwedd ei oes; a blaenffrwyth yr ymdrech wladgarol hon ydoedd iddo argraffu yn 1789, a hyny yn hollol ar ei draul ei hun, gyfrol drwchus yn cynwys 592 o dudalenau, o gywyddau, &c., Dafydd ab Gwilym, gyda rhagymadrodd bywgraffyddol helaeth o'r bardd gan y Dr. O. Pugh. Tua dechreu y ganrif bresenol cyhoeddodd argraffiad newydd o Ddyhewyd y Cristion, sef cyfieithiad y Dr. John Davies y Fallwyd o'r Christian Resolution, er lles ysbrydol ei gydgenedl. Ond cofgolofn ardderchog ei yni cenedlgarol ydoedd ei gyhoeddiad o'r drysorfa werthfawr hono o lenyddiaeth hynafol Gymreig, "The Myvyrian Archeology of Wales." Cyhoeddodd Myfyr y gwaith mawr hwn yn hollol ar ei draul ei hun yn 1801—1807, mewn tair cyfrol wythblyg mawr. Cynwysa gynyrchion barddonol a rhyddieithol y Cymry o'r oesau boreuaf hyd derfyn y 13eg canrif; ac yr oedd y cyhoeddiad yn unig o hono yn costio i Myfyr dros fil o bunau. Rhoddwyd yr ysgrifeniadau crybwylledig i'r byd yn y dull cyntefig, gyda ffyddlondeb cydwybodol, trwy gynorthwy Dr. Pugh ac Iolo Morganwg—ond cofier ar draul Owain Myfyr; a phan ystyrier fod y rhan gyntaf o'r trysor— au llenyddol hyn heb fod erioed o'r blaen mewn argraff—fod