Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sefyllfa o gyfoeth, fod i chwi y pryd hyny fy nghynal i." Nid oes brawf cryfach o'i ysbryd haelfrydig yn angenrheidiol. Dywedir mai unwaith yn unig y bu y boneddwr ieuanc a nodwyd dan yr angenrheidrwydd o wneud prawf o haelioni ei noddwr, ac iddo ei gael y pryd hyny yn llawn cystal a'i addewid; ac y mae yn sicr y cawsai ef yr un mor ffyddlon i'w air pe yr aethai ar ei ofyn drachefn. Dylid chwanegu hefyd, ddarfod i Myfyr, trwy ei graffder doeth yn yr amgylchiad yma, a thrwy ei gefnogaeth gymhelliadol, fod yn foddion i ddwyn person i'r cyhoedd a fu yn addurn wedi hyny i lenyddiaeth Gymreig. Wedi oes ddefnyddiol, efe a fu farw yn ei dy ei hun yn Thames Street, Medi 29, 1814, yn 73 oed, gan adael gweddw a thri o blant ar ei ol—un o ba rai, sef ei unig fab, Owen Jones, a ddaeth yn adeiladydd enwog, ac yn awdwr amrai lyfrau uchelbris ar y gelfyddyd hono. —Em. Welshmen; Cambrian Register; Cambro Briton.

MATTHEW OWAIN, o Langar, bardd dysgedig ac adnabyddus. yn blodeuo tua 1650—1670. Gallai gyfansoddi yn lled awenyddol weithiau, a gallai wneud yn bur wael bryd arall. Nid pob dyn galluog fedr ganu'n wael.


JOHN PARRY, bardd o Gorwen, ac un fu yn gyfranog a Matthew Owain mewn cyfansoddi a chwareu Interliwdiau.


RHYS WYN AB CADWALADR, bardd rhwng 1580 a 1640.


CADWALADR ROBERTS, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a anwyd yn Plasynfaerdref, Llandrillo, Tach, 26ain, 1837. Yr oedd o deulu parchus a chrefyddol. Dechreuodd bregethu yn y fl. 1859. Wedi treulio amryw flynyddau fel efrydydd yn Athrofa y Bala, derbyniodd alwad oddiwrth eglwysi dosbarth Cerygydruidion; ond cyn hir, cyfyngodd ei lafur i eglwysi Rhydlydan, Tymawr, a Chefnbrith. Bu farw Ebrill 13, 1875, yn 37 mlwydd oed. Yr oedd yn bregethwr melus, efengylaidd, a dylanwadol, a theimlid fod bwlch mawr wedi ei wneud gan angeu pan alwyd ef ymaith.—(Gwel ei Gofiant gan y Parch. J. Williams, Llandrillo).


ROBERT ROBERTS, gweinidog tra enwog gyda'r Wesleyaid. Ganwyd ef yn Bonwm, plwyf Corwen, yn 1783. Bu yn olygydd